|
eOlwg Marchnata dros yr eBost
Ymddengys mai’r sefyllfa arferol yn y swyddfa yw rhoi’ch cyfrifiadur ymlaen, gwirio eich negeseuon eBost ac yna cwyno am y negeseuon sgrwtsh a’r spam a anfonir atoch gan bobl sy’n ceisio gwerthu bob math o bethau nad oeddech yn gwybod bod eu heisiau neu eu hangen arnoch, a’r cyfan am bris arbennig.

Fodd bynnag, mae achlysuron hefyd pan fyddwch yn derbyn negeseuon eBost deallus gan fusnesau yr ydych wedi prynu nwyddau ganddynt o’r blaen, a byddwch yn croesawu’r ffaith eu bod yn eich hysbysu am gynigion arbennig a chynyrch newydd.
Mae’n debyg i’r post go iawn a gawn drwy’r drws, weithiau byddwch yn meddwl: sut y cawsant fy nghyfeiriad? Ond ar adegau eraill byddwch yn falch o dderbyn y catalog diweddaraf gan eich hoff fanwerthwr neu’ch hoff gwmni teithio.
Er y bydd rhai cwmnïau yn anfon deunydd marchnata dros yr eBost at y gynulleidfa fwyaf posibl ar y sail y bydd hyn yn arwain at rywfaint o werthiant, mae derbynwyr yn debygol o wylltio gyda’r dull gwasgarog hwn, ac efallai mai dim ond ychydig o lwyddiant a ddaw yn ei sgîl.
Pan fydd busnesau’n mynd ati i gynnal ymgyrchoedd marchnata dros yr eBost, gan dybio bod cyfeiriadau wedi’u casglu yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data wrth gwrs, gallant ddatblygu perthnasau proffidiol, hirdymor gyda’u cwsmeriaid yn y pen draw. Yr hyn sy’n allweddol i’r llwyddiant hwn yw sicrhau bod y negeseuon yr ydych yn eu hanfon at eich cwsmeriaid yn briodol, yn amserol ac yn gryno.
Yn Cyfle Cymru, rydym wedi defnyddio marchnata dros yr eBost ers blwyddyn ac fel y mae John Jackson, ein Pennaeth Marchnata, yn esbonio: “Rydym newydd orffen cyfres o 12 o ddigwyddiadau brecwast bandeang ledled ardal Amcan 1 Cymru. Defnyddiwyd ymgyrch marchnata dros yr eBost gennym i wahodd ein cleientiaid presennol i fynychu. Roedd yn bosibl i ni wneud hyn oherwydd ein bod ni yn Cyfle Cymru wedi casglu cyfeiriadau eBost ein cleientiaid o’r cychwyn, ac, yn bwysig, wedi cael eu caniatâd i gysylltu â hwy o’r cychwyn. Cynhaliwyd cyfanswm o 11 o ymgyrchoedd ar-lein a chawsom gyfradd ymateb cadarnhaol rhagorol o tua 10% ar gyfer pob ymgyrch. Rydym wedi cyfrifo bod pob ymgyrch wedi arbed tua £300 i ni. Fodd bynnag, er bod y rhain yn ganlyniadau rhagorol, mae’n bwysig pwysleisio bod angen defnyddio marchnata dros yr eBost yn y ffordd gywir. Er enghraifft, anfonwyd ein hymgyrchoedd at bobl fusnes yr oeddem yn gwybod fod ganddynt ddiddordeb mewn defnyddio technoleg i wella’u mentrau, felly roedd gwahoddiad i ddigwyddiad band eang yn briodol. Rydym hefyd yn gofalu nad ydym yn anfon gormod o negeseuon oherwydd gallai hyn olygu ein bod yn tanseilio ewyllys da ein cleientiaid, a fyddai’n anfanteisiol i ni. Bydd marchnata dros yr eBost yn parhau i gael ei ddefnyddio fel rhan o’n strategaeth gyfathrebu gyffredinol, ochr yn ochr â phost uniongyrchol, ein cylchlythyr wythnosol ar ffurf eBost a WOWe, ein cylchlythyr misol.”
Fel gydag unrhyw gymhwysiad eFasnach, os caiff yr egwyddorion eu gweithredu’n gywir, gall marchnata dros yr eBost helpu i ennill cwsmeriaid newydd. Mae un o gleientiaid Cyfle Cymru, Bartondale Engineering o Hirwaun yn enghraifft dda. Mae eu hymgyrchoedd marchnata cost-effeithiol dros yr eBost cost-effeithiol wedi arwain at archebion newydd a chwsmeriaid newydd o bedwar ban y byd.
Dilynwch eu hesiampl a dysgwch sut y gallwch chi wneud i farchnata dros yr eBost ddarparu canlyniadau i’ch busnes chi, ewch i’r adran “Canllawiau Ar-Lein” yn www.cyflecymru.co.uk.
Christine Holvey Prif Weithredwr, Cyfle Cymru
|