Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
BBChM yng Nghymru


Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > BBChM yng Nghymru > Y newyddion a'r trafodaethau diweddaraf am eFasnach > eOlwg > Diogelwch



Page 9 of 53   Previous Page .. Hygyrchedd gwefannau Next Page .. Enwau Parth
 

eOlwg
Diogelwch

Mae diogelwch yn un o’r pynciau sy’n aml ym mhenawdau’r newyddion – p’un a yw’n ddiogelwch ar-lein, cynllwyniau, feirysau neu’n haciwyr ar y rhyngrwyd, gall pob un ohonynt achosi problemau sylweddol i unrhyw fusnes. Cafwyd cymaint o bryder am ddiogelwch yn Adroddiad Cyflwr y Genedl Canolfan Arloesedd eFasnach 2004 fel y dywedodd busnesau bach a chanolig eu maint mai materion diogelwch oedd yr ail brif rwystr a oedd yn eu hatal rhag gwerthu eu cynnyrch yn effeithiol ar-lein.

Mae hwn yn fater lle y bydd buddiannau eFasnach yn llawer pwysicach na phryderon diogelwch, os caiff ei gyflawni’n effeithiol. Ar yr amod bod y busnes yn cymryd camau priodol, dylai cadw’r fenter yn ddiogel rhag bygythiadau diogelwch ddod yn dasg gymharol syml a hydrin.

Christine Holvey

Mae llawer o fygythiadau diogelwch allanol, ond i ddechrau dylai busnesau gymryd camau i sicrhau mai dim ond caledwedd a meddalwedd cymeradwy y bydd pob gweithiwr yn ei ddefnyddio ym mhob mater sy’n gysylltiedig â’r busnes. Mae hyn yn golygu rhoi polisi diogelwch ar waith i hysbysu’r staff o’r hyn y gallant ei wneud a’r hyn na allant ei wneud. Er enghraifft, ni ddylid gadael i unigolion lwytho meddalwedd anawdurdodedig i’w cyfrifiaduron personol pendesg, dylid cyfyngu ar y defnydd a wneir o gyfrifon eBost personol ac os na fydd eich system yn ei reoli ar eich cyfer dylid roi rheolau ar waith ynglŷn â derbyn ac agor ffeiliau a anfonir drwy eBost. Hefyd, mae’n bwysig bod unrhyw weithiwr o bell sydd â mynediad i’ch gwasanaethydd ond yn cysylltu drwy gyswllt diogelwch fel Rhwydwaith Preifat Rhithiwr.

Mae angen i bob defnyddiwr cyfrifiadur personol ddefnyddio synnwyr cyffredin i osgoi cynllwyniau rhwyd-dwyll. Negeseuon eBost neu Wefannau yw’r rhain sy’n ymddangos fel pe baent yn tarddu o ffynonellau dilys ond nad ydynt yn rhai dilys o bell ffordd. Y cais mwyaf cyffredin yw cais ffug i gael eich manylion bancio personol, a chynllwyniau a elwir yn 419 lle yr anfonir negeseuon eBost atoch sy’n ymddangos yn wych ar yr olwg gyntaf. Rhaid bod yn eithaf sinigaidd yn yr achosion hyn, a bydd cadw golwg ar y cynllwyniau diweddaraf yn eich helpu i sicrhau eich bod chi a’ch gweithwyr yn ymwybodol o’r bygythiadau diweddaraf.

Mae angen i bob busnes fabwysiadu mesurau diogelwch – waeth beth fo’u maint, a chymwysiadau diogelwch yn cynnwys meddalwedd gwrth-feirws ac mae llenni tân yn hollol hanfodol. Mae amrywiaeth eang o gyflenwyr yn cynnig cynnyrch diogelwch, felly mae’n bwysig adolygu’r nodweddion a gynigir gan wahanol gynnyrch i wneud yn siwr eich bod yn dewis yr un sydd orau i chi.

Waeth beth fo’r ateb y byddwch yn ei ddewis, gwnewch yn siwr eich bod yn llwytho’r wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch yn rheolaidd oddi wrth eich cyflenwyr diogelu feirws a llen dân ynghyd â safleoedd fel Microsoft. Caiff nodiadau atgoffa diweddaraf eu creu yn awtomatig, ond gwnewch yn siwr bod y swyddogaeth hon yn gweithio’n gywir ar bob dyfais gysylltiedig a bod pob aelod o staff yn ymateb i’r ceisiadau llwytho.

Os ydych yn gwerthu i gwsmeriaid ar-lein bydd angen i chi sicrhau bod eich safle yn ddiogel a’ch bod yn rhoi sicrwydd gweledol drwy’r symbol clo yn y porwr, ac yn rhoi esboniad ysgrifenedig i ddweud wrth cwsmeriaid y rheswm pam y gallant siopa gyda chi ar-lein yn ddiogel.

Y newyddion da am ddiogelwch dros y rhyngrwyd yw nad oes angen gradd mewn cyfrifiadureg arnoch i ddefnyddio strategaeth ddiogelwch effeithiol. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi fod yn barod i roi rhywfaint o’ch amser yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am faterion diogelwch, ac yna cymryd mesurau priodol i ddiogelu eich busnes.

Christine Holvey
Prif Weithredwr, Cyfle Cymru

Opportunity WalesI gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch y rhyngrwyd, ewch i www.cyflecymru.co.uk.

Previous Page .. Hygyrchedd gwefannau Next Page .. Enwau Parth



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)