Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
BBChM yng Nghymru


Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > BBChM yng Nghymru > Y newyddion a'r trafodaethau diweddaraf am eFasnach > eOlwg > eWleidyddiaeth



Page 14 of 53   Previous Page .. Gwelogau Next Page .. Marchnata eich Gwefan
 

eOlwg
eWleidyddiaeth

Gyda’r genedl yn pleidleisio yfory, felly y caiff ein tirlun gwleidyddol ei lunio ar gyfer oes y weinyddiaeth newydd.  Waeth beth fo’r canlyniad, mae llawer ohonom yn gobeithio y gallwn barhau i fwynhau manteision prosesau democrataidd sy’n anelu at ddarparu sefydlogrwydd cymdeithasol ac economaidd i’n cymdeithas.

Christine Holvey

Ond mae un maes lle dylai newid ddigwydd, a bydd yn digwydd, sef y ffordd y gall pobl gael mewnbwn uniongyrchol i’r prosesau hynny ar-lein.  Yn y dyfodol agos, bydd defnydd effeithiol o eLywodraeth yn sicrhau y gall unrhyw un sydd â mynediad i’r Rhyngrwyd gael mynediad cyflymach a haws i fyd gwleidyddiaeth ar bob lefel.

Ar hyn o bryd, mae gan yr holl brif bleidiau gwleidyddol Wefannau sy’n eich galluogi i weld eu polisïau a chanfod sut y gallwch gysylltu â’ch AS.  Fodd bynnag, dim ond y man cychwyn yw hwn gan fod toreth o Wefannau sy’n cynnig y cyfle i chi gymryd rhan wirioneddol yn y ddadl a’r broses wleidyddol gan ddefnyddio eich cyfrifiadur eich hun.

Er mwyn dangos i chi mor amrywiol yw’r dewis o Wefannau gwleidyddol, mae Paul Squires, Cyfle Cymru, Pennaeth Gwasanaethau’r We wedi nodi detholiad o rai o‘r safleoedd mwyaf poblogaidd.  Yn gyntaf, os hoffech gysylltu â chynghorwyr, ASau, ASEau, neu eich AC ewch i www.writetothem.com.  Yng Nghymru, mae gan www.assemblyonline.org Welog sy’n cwmpasu gweithgareddau’r cynulliad, ac mae hwn yn ffordd syml i unrhyw un ychwanegu ei sylwadau i’r hyn sy’n digwydd ym myd gwleidyddiaeth Cymru, ac yn www.downingstreetsays.com cewch wneud yr un peth ar gyfer gweithgareddau’r Prif Weinidog.  Drwy ymweld â www.theyworkforyou.com cewch gyfle i fonitro’r hyn mae eich AS yn ei wneud a’r ffordd y maent yn pleidleisio, ac mae www.publicwhip.org.uk hefyd yn dangos beth yw arferion pleidleisio eich AS.

Mae llawer o bobl o blaid safleoedd o’r fath a llawer un arall nad ydynt mor gefnogol, ond beth bynnag fo’ch barn, ni ellir dadlau eu bod yn cynnig ffordd fwy cyfleus o gael y wybodaeth ddiweddaraf am wleidyddiaeth Prydain.

Mae Gwelogau gwleidyddol swyddogol hefyd yn rhoi’r cyfle i bobl ddweud eu barn, megis yr un a gynigir gan Cymru Ar Lein, ste www.cymruarlein.wales.gov.uk. Yma, gallwch arolyg u strategaeth Techoleg Gwyboda arolyg u Strategaeth Technoleg Gwybodaeth y Llywodraetn Cynulliad Cymru, yn ogystal â chyfarthrebu gwneud sylwadau ar unrhyw barn, yn syth yn ôi i’r cynulliad.

Wrth i fwy a mwy o gyfleoedd godi ar-lein, mae’n bwysig bod gwleidyddion yn sicrhau y gall pob aelod o’r gymuned gael mynediad hawdd, fforddiadwy ac ar gyflymder priodol i’r Rhyngrwyd, gan atal yr hyn a elwir yn gyffredinol yn ‘raniad digidol’.

Mae Arolwg Omnibws y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a gyhoeddwyd fis Rhagfyr diwethaf yn dangos y gallai tua 52 y cant o gartrefi’r DU gael mynediad i’r Rhyngrwyd o’u cartref, yn ystod trydydd chwarter 2004.  Mae hynny ynddo’i hun yn gynnydd cyflym o’r 9 y cant a oedd yn gallu cael mynediad yn ystod yr un chwarter yn 1998.  Ond mae’n golygu nad oes gan 48 y cant o gartrefi’r DU fynediad i’r Rhyngrwyd o hyd.

Erbyn yr Etholiad Cyffredinol nesaf, byddai’n braf meddwl y gallai pob un ohonom ddewis pleidleisio ar-lein, o’n cartrefi ein hunain, waeth beth fo’n hamgylchiadau personol, ac mae’n bosibl y byddai hyn yn ffordd syml ac effeithiol o gynyddu nifer y bobl sy’n pleidleisio mewn etholiadau.

Christine Holvey
Prif Weithredwr, Cyfle Cymru

Previous Page .. Gwelogau Next Page .. Marchnata eich Gwefan



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)