Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
BBChM yng Nghymru


Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > BBChM yng Nghymru > Y newyddion a'r trafodaethau diweddaraf am eFasnach > eOlwg > Meddalwedd Ffynhonnell Agored



Page 17 of 53   Previous Page .. Sicrhau bod eich cyfrifiadur pen-glin yn ddiogel Next Page .. Gwerthu ar-lein
 

eOlwg
Meddalwedd Ffynhonnell Agored

Mae meddu ar y feddalwedd gywir ar gyfer eich busnes yn hanfodol, ond gall fod yn ddrud iawn hefyd.  Yn sicr, rwyf wedi gwario llawer o arian, ond arian  angenrheidiol, ar feddalwedd yn Cyfle Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf.

Wrth i eFasnach barhau i ddatblygu, mae defnyddwyr yn galw am ddatrysiadau mwy pwrpasol i fodloni gofynion eu busnes, sydd, yn ei dro, yn golygu teilwra datrysiadau meddalwedd drud neu hyd yn oed ddatblygu systemau o’r newydd.

Christine Holvey

Erbyn hyn, diolch i’r Rhyngrwyd, mae’n fwyfwy posibl i unrhyw un sy’n meddu ar rai sgiliau TG i gael meddalwedd o ansawdd uchel am ddim, ac yn bwysig iawn, does dim byd anghyfreithlon yn hynny!  Gelwir y feddalwedd hon yn "Ffynhonnell Agored”, ac yn aml, caiff ei datblygu gan grwpiau bach o unigolion sydd angen darn penodol o feddalwedd i fodloni gofynion personol neu ofynion busnes.  Mae llawer o grwpiau, sy’n cael eu hysgogi gan yr her dechnolegol mae’n siŵr, yn dewis datblygu meddalwedd yn hytrach na’i phrynu.

Mae’r term Ffynhonnell Agored yn cyfeirio at y cod ffynhonnell a ysgrifennir i ddatblygu’r feddalwedd.  Gan fod y cod yn agored, mae’n bosibl i’r defnyddwyr eraill ychwanegu nodweddion newydd a gwneud datblygiadau pellach, a chan fod y datblygwr a’r defnyddiwr yn cydweithio ar y feddalwedd, nid yw bygiau a phroblemau yn codi mor aml, a chânt eu datrys yn gyflym.  Yn syml, mae sicrhau bod y feddalwedd yn gweithio er lles pawb.

Ar y llaw arall, pan fyddwch yn prynu meddalwedd oddi wrth un o’r prif gwmnïau, bydd y ffynhonnell ar gau.  Mae hyn yn ddealladwy oherwydd bod angen i’r sefydliadau masnachol hyn ddiogelu eu cynnyrch, ond mae’n golygu bod yn rhaid i chi aros i ddiweddariadau gael eu cyhoeddi, ac os oes gan y feddalwedd unrhyw wendidau, gall gymryd misoedd i ddatrys y broblem.

Mae meddalwedd Ffynhonnell Agored yn tueddu i gael ei datblygu gan rwydwaith o raglenwyr, dylunwyr, profwyr a rheolwyr prosiectau, sy’n gweithio yn eu hamser hamdden gan amlaf, ac yn cydweithio drwy Wefannau fel www.sourceforge.net ac www.berlios.de.  Crewyd y rhain yn benodol i ddatblygu meddalwedd Ffynhonnell Agored.  

Er nad ydych efallai’n gyfarwydd â Ffynhonnell Agored, er mwyn rhoi syniad i chi o ba mor boblogaidd yw’r math hwn o feddalwedd, mae safle Sourceforge yn cynnal dros 98,000 o brosiectau gweithredol ac mae ganddo dros 1,000,000 o ddefnyddwyr cofrestredig.

Er mwyn i chi gael eich blas cyntaf ar fyd Ffynhonnell Agored, gymerwch gipolwg ar y gwefannau y soniwyd amdanynt uchod, yn ogystal â www.hotscripts.com lle gallwch weld a oes cynnyrch yn bodoli a all ddiwallu eich anghenion.  Pan fyddwch wedi dod o hyd i gynnyrch a fydd o ddefnydd i chi, gwiriwch fod ganddo’r statws “aeddfed/sefydlog”, ac ymgynghorwch â’r fforymau prosiect cysylltiedig.  Byddant yn rhoi syniad i chi o’r profiadau a gafodd ddefnyddwyr presennol wrth ddefnyddio’r feddalwedd; yn gyffredinol, bydd y defnyddwyr hyn yn barod iawn i roi barn ddiduedd am y cynnyrch, felly peidiwch â bod ofn cysylltu â hwy.  Pan ydych yn hyderus o’ch dewis o feddalwedd Ffynhonnell Agored, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ei llwytho, a’i defnyddio.

Pan fyddwch yn cyflwyno unrhyw feddalwedd i fusnes, mae angen rheoli’r gwaith hwnnw’n ofalus. Os ydych am gael datrysiad Ffynhonnell Agored, bydd angen i chi feddu ar fwy o wybodaeth TG ac amser ymchwil na’r hyn sydd gan fusnesau bach a chanolig eu maint fel arfer.  Ond, os byddwch yn dod yn gyfarwydd â’r broses, cewch eich synnu pa mor gyflym y gallwch ddod o hyd i’r feddalwedd Ffynhonnell Agored sydd ei hangen arnoch, a’r swm o arian y byddwch yn ei arbed.       

Christine Holvey
Prif Weithredwr, Cyfle Cymru

Previous Page .. Sicrhau bod eich cyfrifiadur pen-glin yn ddiogel Next Page .. Gwerthu ar-lein



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)