|
eOlwg Dilyn dy Gynffon
Mae siopa ar-lein wedi dod â nwyddau a gwasanaethau’r byd i flaenau ein bysedd. Lle’r arferai fod yn anodd prynu nwyddau penodol, a oedd, o bosibl, oherwydd diffyg galw, yn gorfod cael eu harchebu gydag amser aros hir, mae marchnad fyd-eang y Rhyngrwyd bellach yn ei gwneud yn hawdd i unrhyw un brynu unrhyw faint o unrhyw eitem yn syth.

Gyda nifer helaeth o’r nwyddau ar gael, ystyriwch yr effaith a gaiff ar y busnesau a’r cyflenwyr rydych yn prynu oddi wrthynt. Wrth i bobl fynnu amrywiaeth ehangach o eitemau, amharir ar fodelau busnes arferol. Amcan model busnes newydd a gyflwynwyd y llynedd yw ymwneud â’r mater hwn, a gall gael goblygiadau pellgyrhaeddol i fusnesau o unrhyw faint.
Datblygwyd y model, a elwir yn ‘Gynffon Hir’, gan Chris Anderson, golygydd y cylchgrawn technoleg Wired. Mae’n gweithio drwy ystyried dau ystyr y gair “dosbarthu”.
Yn gyntaf, ystyriwch faint o bobl a brynodd y nofel Harry Potter newydd dros y penwythnos. Does dim dwywaith y bydd yn gwerthu miloedd o gopïau. Ond beth am werthiant llyfrau am bynciau llai poblogaidd? Mewn cymhariaeth, efallai mai un neu ddau a brynodd lawlyfr trwsio math penodol o gar. Ond wrth adio niferoedd yr holl lyfrau llai poblogaidd hyn a werthir at ei gilydd, mae’r cyfanswm gwerthiant yn uwch na’r llyfr sy’n gwerthu orau. Meddyliwch am hyn yn nhermau'r hyn sydd gan eich cwmni chi i’w gynnig: a oes gennych sawl cynnyrch arbenigol a allant, os y’u hyrwyddir yn effeithiol, gyda’i gilydd, greu refeniw gwerthiant uwch na’ch cynnyrch mwyaf poblogaidd? A oes posibilrwydd ar gyfer arallgyfeirio i greu portffolio ehangach o gynnyrch arbenigol?
Yn ail, mae goblygiadau i fusnesau o ran dosbarthu eu cynnyrch. Mewn gwirionedd, gan fod angen storio’r holl gynnyrch llai poblogaidd ynghyd â’r rhai mwy poblogaidd, gall model ‘Cynffon Hir’ ond gweithio pan gedwir costau storio a dosbarthu yn isel. Mae pob busnes eisiau cadw’r rhain yn isel, a chyda archebu ar-lein yn parhau i gynyddu, mae llawer o fusnesau’n dechrau ailarchwilio eu prosesau rheoli a dosbarthu stoc er mwyn sicrhau bod disgwyliadau eu cwsmeriaid o ran dosbarthu cyflym ac effeithlon mor uchel â phosibl.
Yn gryno, nid ar gynnyrch poblogaidd yn unig y mae angen i berchnogion busnesau ganolbwyntio, gan y gall diwallu anghenion y prynwyr arbenigol wneud yr un faint neu fwy o elw. Mae e-fasnach yn benthyg ei hun i’r math hwn o arfer busnes gan alluogi perchnogion busnesau bach i gystadlu gyda’r cyflenwyr mwy.
Gall model ‘Cynffon Hir’ gael ei ddehongli fel ‘diwylliant’ yn gymaint â model busnes safonol. Efallai yr hoffech ystyried sut mae’n berthnasol i chi a sut y gall eich gweithrediadau ar-lein ac all-lein ateb ceisiadau cynnyrch unigol, a sut y gallwch ddiwallu anghenion y cwsmeriaid hynny orau o ran boddhad.
Fel gyda phob datblygiad newydd mewn e-fasnach a’r byd busnes ehangach, fe’ch hysbyswn o’r newyddion diweddaraf ar ein gwefan – www.cyflecymru.co.uk – lle gallwch hefyd drafod y pynciau hyn gyda busnesau eraill drwy ein gwasanaeth Gwelog.
Christine Holvey Prif Weithredwr, Cyfle Cymru
|