Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
BBChM yng Nghymru


Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > BBChM yng Nghymru > Y newyddion a'r trafodaethau diweddaraf am eFasnach > eOlwg > Twristiaeth



Page 38 of 53   Previous Page .. Gwella Gwasanaethau Cwsmeriaid gydag e-fasnach Next Page .. Ysbïwedd
 

eOlwg
Twristiaeth

Mae adran fach ar wefan Bwrdd Croeso Cymru (www.wtbonline.gov.uk) o’r enw Ffeithiau Cyflym sy’n fwy nag amlygu pa mor bwysig y mae twristiaeth i’n heconomi. Er enghraifft, mae’r wefan yn dyfynnu  “mae twristiaeth yn cyfrannu dros £6miliwn bob dydd i economi Cymru” sy’n cyfateb i £2 biliwn y flwyddyn, ac yn cynrychioli 7% o CMC Cymru.  

Christine Holvey

Wrth ystyried hyn, mae’n ymddangos yn amlwg y dylid annog diwydiant twristiaeth Cymru i barhau i ffynnu, yn enwedig pan fyddwch yn ystyried bod hanner y refeniw hwnnw a gynhyrchir gan Dwristiaeth yn cael ei wneud mewn ardaloedd gwledig.   

Ers 2001, pan gychwynnodd Cyfle Cymru ddarparu gymorth e-Fasnach i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, mae ein hymgynghorwyr wedi darparu cymorth i fwy na 1,000 o fentrau twristiaeth. Mae’r cymorth hwn yn golygu darparu Adolygiad e-Fasnach pwrpasol ac adroddiad dilynol. Mae’r adroddiadau hyn yn amlinellu’n glir y camau sydd angen eu cymryd i sicrhau y datblygir strategaeth e-Fasnach effeithiol a chyraeddadwy ar gyfer bob busnes unigol.

Erbyn mis Medi eleni, fel rhan o’r rhaglen monitro perfformiad parhaus rydym wedi ailymweld â mwy na hanner (699) o’r cleientiaid hyn, sydd wedi dweud wrthym eu bod wedi gweld cynnydd cyfunol yn eu trosiant o fwy na £13,821,690 ers iddynt dderbyn ein cymorth e-Fasnach gyntaf.

Nid yw’n syndod, fod busnesau twristiaeth wedi bod yn edrych i ddatblygu gwefannau i’w helpu i hyrwyddo eu mentrau’n effeithiol ledled y byd. Heblaw’r cynnydd mewn trosiant, wrth siarad â busnesau gyda gwefannau, mae storïau am archebion ar-lein yn dod o UDA, Rwsia a Japan yn cynnig tystiolaeth gymhellol bod gan e-Fasnach rôl ganolog i’w chwarae mewn hyrwyddo busnesau yn y sector hwn.

Fodd bynnag, rhaid pwysleisio bod e-Fasnach yn datblygu o hyd, sy’n golygu y dylai unrhyw un sy’n rhedeg busnes twristiaeth sicrhau eu bod yn clustnodi rhywfaint o amser i edrych ar y ffordd y mae eu mentrau yn defnyddio e-Fasnach ar hyn o bryd, a nodi’r ffordd fwyaf priodol o symud ymlaen.

Er enghraifft, mae p’un a ddylai busnes ganiatáu i gwsmeriaid wneud archebion a chymryd taliadau ar-lein yn ystyriaeth bwysig, yn enwedig wrth i ddefnyddwyr eu hunain ddod yn fwyfwy cyfforddus wrth wneud taliadau dros y Rhyngrwyd.

Ar lefel sylfaenol, dylai’r holl fusnesau sicrhau na esgeulusir cynnal gwefannau yn sylfaenol. Golyga hyn ddiweddaru cynnwys y wefan, adolygu unrhyw ddolenni i sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn addas, a hyd yn oed wirio bod y delweddau sy’n cael eu defnyddio yn dangos y busnes ar ei orau. At hynny, gall fod yn hawdd i’w esgeuluso, ond dylai cynnwys gwefannau eraill, yn cynnwys www.visitwales.co.uk gael ei wirio am gywirdeb.

Mae hwn hefyd yn amser da i fusnesau twristiaeth ymgysylltu â band eang, yn enwedig gan y bydd mwyfwy o ymwelwyr i Gymru yn galw am lety lle y gallant gael mynediad cyflym i’r Rhyngrwyd. I’r busnesau hynny sy’n dioddef problemau wrth gael band eang ar hyn o bryd, ewch i www.bbwo.org.uk. Dyma wefan Arsyllfa Band Eang Cymru, lle y mae busnesau na allant ymgysylltu â band eang, neu sydd angen mynediad cyflymach at fand eang, yn cael eu hannog i gofrestru eu hangen, a fydd yn ei dro yn helpu i ddatblygu’r achos busnes dros ddarparu’r isadeiledd i ddiwallu’r angen.

I fusnesau twristiaeth sy’n edrych i ddatblygu eu defnydd o e-Fasnach, mae cyfres o astudiaethau achos ysbrydoledig ar gael i’w darllen yn www.opportunitywales.co.uk.

Mae un neges yn amlwg iawn o Ffeithiau Cyflym y Bwrdd Croeso –mae twristiaeth yng Nghymru yn fusnes mawr a gyda chymorth e-Fasnach mae potensial enfawr i ddatblygu ymhellach fyth.

Am wybodaeth pellach ar sut i ennill y gorau’ch Gwefan, ymwelwch â www.cyflecymru.co.uk

Christine Holvey
Prif Weithredwr, Cyfle Cymru

Previous Page .. Gwella Gwasanaethau Cwsmeriaid gydag e-fasnach Next Page .. Ysbïwedd



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)