Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
BBChM yng Nghymru


Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > BBChM yng Nghymru > Y newyddion a'r trafodaethau diweddaraf am eFasnach > eOlwg > Meddwl am ganlyniadau



Page 48 of 53   Previous Page .. Edrych yn ôl, edrych ymlaen Next Page .. Gwerthu’r eFfordd
 

eOlwg
Meddwl am ganlyniadau

Mae Alex Tew, sy’n 21 mlwydd oed, a’i Hafan Miliwn o Ddoleri yn parhau i greu cyffro ymhlith y wasg, ac nid yw hynny’n syndod gan fod ei syniad wedi llwyddo i ddal dychymyg defnyddwyr y Rhyngrwyd o amgylch y byd. Mae stori Alex yn swnio bron fel sgript ar gyfer ffilm Hollywood; myfyriwr sy’n chwilio am ffordd o godi arian i’w gynnal yn y brifysgol yn cael syniad i werthu picseli (sef y dotiau bach sy’n gwneud delwedd sgrin) ar Wefan. Felly creodd Alex Wefan gyda miliwn o bicseli i’w gwerthu am ddoler yr un. O ganlyniad i faint bach picsel, roedd angen i brynwyr bwrcasu bloc o 100 o bicseli o leiaf, a gyda’i wefan nawr wedi gwerthu’r holl bicseli, mae Alex, o fewn chwe mis, wedi llwyddo i gronni ffortiwn.

Christine Holvey

Mae hyn yn dangos y canlyniadau rhyfeddol y gellir eu cyflawni drwy gael y syniad iawn ar yr adeg iawn, ac mae Mr Tew yn llwyr haeddu mwynhau canlyniadau ei syniad arloesol. Fodd bynnag, mae’n bwysig pwysleisio, er y bydd unigolyn bob hyn a hyn yn gallu cronni ffortiwn yn gyflym o’r Rhyngrwyd, nid hyn yw’r arfer o bell ffordd.

Yn hytrach, mae’n llawer mwy realistig i bobl fusnes Cymru ddeall y gall sicrhau eu bod yn gweithredu strategaeth e-fasnach effeithiol helpu eu busnesau i ddod yn fwy effeithlon, ennill mwy o gwsmeriaid, cynyddu elw ac yn y pen draw dod yn fwy cynaliadwy.

Nawr, er nad yw’r ymagwedd hon at ddefnyddio e-fasnach yn swnio mor gyffous â gwneud miliwn mewn chwe mis, yn sicr mae’n helpu busnesau i ddeall bod eFasnach yn arf y dylid ei integreiddio’n briodol i mewn i weithrediadau busnes.

Er hynny, mae gwers arwyddocaol i’w dysgu o brofiad Alex Tew, sef pwysigrwydd cymryd saib i feddwl. Mae pobl sy’n rhedeg eu busnesau eu hunain yn dueddol o orfod gwisgo sawl het wahanol yn ystod y diwrnod gwaith. Treulir amser yn gofalu am gynhyrchu, gwerthu, personél a gwaith papur, nad yw’n gadael fawr ddim o amser ar ôl i feddwl yn greadigol.

Ond, mae meddwl o’r fath yn hanfodol gan ei fod yn caniatáu i syniadau newydd lifo i mewn i’r busnes, ac wrth gwrs, efallai na wêl nifer o’r rhain olau dydd, ond dim ond un neu ddau syniad llwyddiannus y mae’n ei gymryd i gael effaith gadarnhaol sylweddol ar fenter. Pwy a wyr beth fyddai’r effaith pe bai pobl fusnes Cymru yn neilltuo awr yr wythnos a hynny dim ond i feddwl am ffyrdd o wella eu busnesau. O safbwynt eFasnach, gallai busnesau feddwl am eu cynnyrch, ac er enghraifft, os nad ydynt yn eu gwerthu ar-lein, pam lai? Gallant hefyd ystyried eu Gwefannau; ydynt wedi’u diweddaru, a ydynt yn gweithio’n well na rhai eu cystadleuwyr, a yw’n hawdd i gwsmeriaid ei defnyddio, pa welliannau sydd eu hangen?

Gall ymweld â www.cyflecymru.co.uk helpu i roi ysgogiad i feddwl am y ffyrdd y gall busnesau ddefnyddio eFasnach yn effeithiol. Mae’r Wefan yn cynnwys astudiaethau achos o fusnesau yng Nghymru sydd wedi cymhwyso eu meddwl yn llwyddiannus ac sydd bellach yn gweld y buddiannau o wneud defnydd effeithiol o eFasnach.

Christine Holvey
Prif Weithredwr, Cyfle Cymru

Previous Page .. Edrych yn ôl, edrych ymlaen Next Page .. Gwerthu’r eFfordd



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)