|
eOlwg Taliadau ar-lein
Ar gyfer busnesau sy’n gwerthu nwyddau a gwasanaethau, mae cael gwefan yn ffordd ardderchog a chost effeithiol o ddangos i’r byd beth sydd ganddynt i’w gynnig, ac ar gyfer darpar gwsmeriaid, mae’r Rhyngrwyd yn ffordd hwylus iawn o gael gafael ar y nwyddau sydd eu hangen arnynt. Fodd bynnag, yn sgîl y cynnydd yn nifer y cwsmeriaid Rhyngrwyd a phrynwyr corfforaethol, mae’n bwysig bellach i’r busnesau hynny yng Nghymru sydd â gwefannau nad ydynt yn caniatáu taliadau ar-lein ddechrau ystyried hynny o ddifrif.

Bydd defnyddio Gwefan fel arddangosfa ar gyfer cynnig cynnyrch yn unig yn rhoi’r busnes hwnnw o dan anfantais gystadleuol gynyddol o gymharu â’r safleoedd hynny sy’n caniatáu i gwsmeriaid brynu ar-lein. Yn amlwg, bydd rhai eithriadau i hyn, ond byddant yn dueddol o fod yn gyfyngedig i gynnyrch technegol iawn neu gynnyrch unigryw iawn lle mae’n hanfodol i’r prynwr a’r gwerthwr ddatblygu perthynas waith er mwyn gallu penderfynu beth yn union fydd y cynnyrch terfynol.
Pan fydd darpar gwsmer yn ymweld â safleoedd y busnesau hynny nad ydynt yn cynnig cyfleuster talu ar-lein diogel ar hyn o bryd, mae’n bwysig deall bod risg wirioneddol y bydd y cwsmer hwnnw yn chwilio am Wefan cyflenwr arall sydd yn cynnig cyfleuster o’r fath pan na ellir cwblhau’r broses o brynu ar-lein.
Mae nifer o bethau y dylai busnes eu hystyried pan fydd yn sefydlu cyfleuster talu ar-lein. Mae’r rhain yn cynnwys sefydlu Cyfrif Masnachwr y Rhyngrwyd (sef cyfrif banc sy’n gallu ymdrin ag arian a gaiff ei gynhyrchu gan daliadau Rhyngrwyd), ac yna dewis cyflenwr i weinyddu’r gwasanaeth taliadau ar-lein.
Gall busnes ddewis cael ei Gyfrif Masnachwr y Rhyngrwyd gydag un cyflenwr a’i gyfleuster prosesu cardiau credyd gydag un arall. Efallai nad dyma’r ymagwedd hwylusaf, ond bydd yn galluogi’r busnes i ddewis y cyflenwr mwyaf priodol a chost effeithiol ar gyfer ymdrin â’r taliadau. I eraill, efallai bod symlrwydd a hwylustod cael un cyflenwr yn darparu eu Cyfrif Masnachwr y Rhyngrwyd a gwasanaeth taliadau ar-lein yn fwy deniadol.
Ceir llawer o ddarpar gyflenwyr yn y farchnad y mae angen ymchwilio’n drylwyr i’w gwasanaethau er mwyn sicrhau bod y busnes yn defnyddio’r system taliadau ar-lein fwyaf priodol. Mae’r rhain y cynnwys y banciau adnabyddus sydd ar y Stryd Fawr sydd, eu hunain, yn cystadlu fwyfwy â chwmnïau newydd megis WorldPay a PayPal, enwau a fydd eisoes yn gyfarwydd i siopwyr ar-lein rheolaidd.
Mae’r costau yn amrywio, ac fel arfer dylid ystyried tair agwedd; sef ffi sefydlu, tâl misol parhaus a thâl am bob trafodyn. Dylai pob busnes adolygu’r ffordd y bydd taliadau o’r fath yn effeithio ar eu busnes drwy edrych ar eu gweithgaredd masnachol rhagamcanol ar y rhyngrwyd, ac yna cymharu’r costau hyn â’r amser a gymerir i brosesu taliadau â siec, cyfleuster archebion ar-lein gan gwsmeriaid, a’r busnes ychwanegol posibl y gellir ei gynhyrchu drwy dderbyn taliadau ar-lein.
Y brif neges i unrhyw fusnes sy’n ystyried cynnig cyfleuster taliadau ar-lein yw bod angen dealltwriaeth lawn o’r ffordd mae’r broses yn gweithio ac yna cynnal archwiliad trylwyr o ddarparwyr gwasanaeth posibl. Mae’n hanfodol deall pa mor bwysig yw gallu gwneud taliadau ar-lein, ac mae’n hanfodol i fusnesau “lwyddo’r tro cyntaf”. Gallai fod o help i ddarllen tair erthygl newydd ar y testun taliadau ar-lein ar Wefan Cyfle Cymru, www.opportunitywales.co.uk/cym
Christine Holvey Prif Weithredwr, Cyfle Cymru
|