Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
BBChM yng Nghymru
Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > BBChM yng Nghymru > Y newyddion a'r trafodaethau diweddaraf am eFasnach > eFasnach yn BBChM - Adroddiad Arolwg o Gyflwr y Genedl > Croeso



Page 1 of 3   Next Page .. Crynodeb Gweithredol
 

eFusnes mewn busnesau bach a chanolig yng Nghymru
Adroddiad Arolwg o Gyflwr y Genedl 2006/2007

Adroddiad Arolwg o Gyflwr y Genedl 2006/2007

Disgwylir y bydd mabwysiadu technolegau gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) ac eFusnes yn rhan allweddol o dwf economaidd a chynhyrchiant cynyddol o fewn y gymuned busnesau bach a chanolig yng Nghymru. Mae mesur y defnydd o TGCh ac eFusnes yn hanfodol er mwyn sicrhau y caiff polisïau eu llunio a phenderfyniadau datblygu eu gwneud mewn modd hyddysg.

Dyma'r bedwaredd astudiaeth a gynhaliwyd o fewn rhaglen Cyfle Cymru gan y Ganolfan Arloesedd eFasnach ym Mhrifysgol Caerdydd yn ei rôl fel Canolfan Ragoriaeth ar gyfer y rhaglen. Cyflwynir y canlyniadau o arolwg ffôn o 2553 o fusnesau bach a chanolig ledled Cymru yn archwilio eu cynnydd wrth weithredu a manteisio ar eFusnes. Yn ogystal â hyn, eleni rydym yn rhoi canlyniadau yn benodol i fusnesau sydd wedi cael cymorth gan raglen Cyfle Cymru.

Mae'r arolwg yn cwmpasu ystod o faterion yn ymwneud â busnes ac eFusnes er mwyn canfod yr arweinwyr allweddol, y mabwysiadu cyfredol, sut y defnyddir eFusnes, yn ogystal â bwriadau o ran gweithrediadau yn y dyfodol. Edrychwyd ar wyth maes allweddol o ran mabwysiadu eFusnes a'i roi ar waith:

  • Y dechnoleg a ddefnyddir;
  • Y defnydd o TGCh mewn gweithrediadau busnes;
  • Y defnydd o brynu ar-lein a gwasanaethau ar-lein;
  • Gweithio hyblyg;
  • TGCh a diogelwch;
  • eLywodraeth;
  • Arloesedd, eDdiwylliant ac adeiladu ar gyfer y dyfodol;

Crynodeb gweithredol

Mae'r crynodeb gwerithredol ar gael yn awr, a gallwch weld hi yma.

Adroddiad Llawn

Bydd yr adroddiad llawn ar gael yn Saesneg, ar Wefan Cyfle Cymru,yn fuan, drwy'r adran aelodau. Mae cofrestru yn broses rhad ac am ddim ac mae'n caniatáu mynediad i lawer o gylfeusterau ychwanegol unrhyw bryd. Cyn gynted ag y byddwch wedi cofrestru, anfonir enw defnyddiwr a chyfrinair atoch dros yr eBost, a fydd yn caniatáu i chi gael mynediad i adroddiad Cyflwr y Genedl a chyfoeth o gynnwys ychwanegol.

I dderbyn gopi Cymraeg o'r adroddiad llawn, neu adranau penodol o'r adroddiad, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Next Page .. Crynodeb Gweithredol



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)