Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
BBChM yng Nghymru
Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > BBChM yng Nghymru > Y newyddion a'r trafodaethau diweddaraf am eFasnach > eFasnach yn BBChM - Adroddiad Arolwg o Gyflwr y Genedl > Crynodeb Gweithredol



Page 2 of 3   Previous Page .. Croeso Next Page .. Rhagair
 

Adroddiad Arolwg o Gyflwr y Genedl 2006/2007
Crynodeb Gweithredol

Crynodeb Gweithredol

Dyma'r pedwerydd adroddiad i'w gynhyrchu gan y Ganolfan Arloesedd eFasnach ym Mhrifysgol Caerdydd yn ei rôl fel Canolfan Ragoriaeth ar gyfer rhaglen Cyfle Cymru. Cyflwynir canlyniadau arolwg ffôn o 2553 o fusnesau bach a chanolig ledled Cymru ar ddiwedd 2006 a dechrau 2007 ac mae'n canolbwyntio ar fabwysiadu a defnyddio eFusnes, a'r cynnydd wrth ei weithredu. Yn ogystal â hyn, eleni rydym yn rhoi canlyniadau i fusnesau sydd wedi cael cefnogaeth drwy raglen Cyfle Cymru.

Er mwyn i'r adroddiad gydymffurfio ag arfer derbyniol ymysg arolygon cyffelyb, cyflwynir y canlyniadau ar wahân i fusnesau gydag un neu fwy o gyflogeion ac i'r busnesau hynny heb gyflogeion. Lle bo'n addas, dadansoddir y canlyniadau i fusnesau â chyflogeion ymhellach, i mewn i fandiau maint o fusnesau micro, bach a chanolig.

Canfyddiadau allweddol yn ôl maint

  • 58.6% o fusnesau bach a chanolig â chyflogeion yng Nghymru sydd â chysylltiad i'r Rhyngrwyd sef 53.9% o fusnesau micro, 77.7% o fusnesau bach a 90.9% o fusnesau canolig.
  • 78.3% o fusnesau bach a chanolig â chyflogeion a chysylltiad i'r Rhyngrwyd sy'n defnyddio band eang i gysylltu â'r rhyngrwyd.
  • 71.5% o fusnesau bach a chanolig sydd â chyflogeion, sydd â gwefan, gyda'r gyfradd uchaf (85.4%) ymhlith busnesau canolig.
  • 17.7% o fusnesau sydd â chysylltiad i'r Rhyngrwyd sydd â chyflogeion sy'n gwerthu ar-lein.
  • 69.5% o fusnesau sydd â chysylltiad i'r Rhyngrwyd sydd â chyflogeion sy'n prynu nwyddau neu wasanaethau ar-lein.

Canfyddiadau allweddol yn ôl sector diwydiant

  • Y sector Gwasanaethau Ariannol, Eiddo a Busnes oedd â'r gyfradd uchaf o fusnesau â chysylltiad i'r Rhyngrwyd, sef 75.5%, gyda'r gyfradd isaf ymhlith y sector Gwestai a Bwytai, ar 41%.
  • Yn y sector Gweithgynhyrchu caiff band eang ei ddefnyddio fwyaf eang, gydag 81.4% o fusnesau yn dweud eu bod yn defnyddio'r dechnoleg i gysylltu â'r Rhyngrwyd.
  • Y sector Gwasanaethau Ariannol, Eiddo a Busnes a'r sector Gweithgynhyrchu sydd â'r gyfradd uchaf o fusnesau sydd â gwefan, sef 81% ac 81.4% yn ôl eu trefn. Y sector Adeiladu oedd â ffigur isaf, sef 37.5%.
  • Y sector Gwasanaethau Eraill oedd â'r ganran uchaf o fusnesau oedd yn cael taliadau ar-lein, sef 66.7%.
  • Y sector Amaethyddiaeth oedd â'r ganran uchaf o fusnesau yn prynu nwyddau a gwasanaethau ar-lein, sef 78.1%.

Canfyddiadau allweddol yn ôl rhanbarth

Cyflwynir y canlyniadau ar gyfer ardaloedd Amcan 1 ac ardaloedd nad ydynt yn rhai Amcan 1, ac ar gyfer saith ardal ddaearyddol Cymru.

  • Yn ardal Amcan 1 Cymru mae 57% o fusnesau â chysylltiad i'r Rhyngrwyd, o gymharu â 61.2% o'r busnesau y tu allan i ardaloedd Amcan 1.
  • Mae gan 71.4% o fusnesau yn ardal Amcan 1 wefan, o gymharu â 71.3% o'r rheini y tu allan i ardaloedd Amcan 1.
  • Mae 38.5% o fusnesau yn ardal Amcan 1 wedi derbyn taliadau ar-lein, o gymharu â 59.7% o'r rheini y tu allan i ardaloedd Amcan 1.
  • Yn Rhanbarth 3 (Caerdydd a Bro Morgannwg), ceir y lefel uchaf o fynediad i'r Rhyngrwyd, sef 62.3%.
  • Rhanbarth 5 (Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent, Tor-faen) oedd â'r gyfradd uchaf o fusnesau gyda Gwefan.
  • Rhanbarth 7 (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych) sydd â'r gyfradd uchaf o fusnesau sydd wedi derbyn taliadau ar-lein.

Cleientiaid Cyfle Cymru

  • Mae 74.2% o gleientiaid Cyfle Cymru sydd â chyflogeion yn defnyddio band eang i gael mynediad i'r Rhyngrwyd.
  • Mae gan 82.2% o gleientiaid sydd â chyflogeion wefan fusnes o gymharu â 69.9% nad ydynt yn gleientiaid.
  • Mae gan 35.7% o gleientiaid sydd â chyflogeion yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau ar-lein, o gymharu â 19.9% nad ydynt yn gleientiaid.
  • Mae gan 19.2% o gleientiaid sydd â chyflogeion strategaeth eFusnes ysgrifenedig o gymharu â 10.2% nad ydynt yn gleientiaid.
  • Nododd 13.7% o gleientiaid gostau sefydlu fel y prif rwystr rhag mabwysiadu eFusnes o gymharu â 10.9% nad ydynt yn gleientiaid. Dyma'r rhwystr mwyaf cyffredin a welwyd ymysg busnesau.

Adroddiad Lawn

Mae'r adroddiad llawn bellach ar gael a gellir ei weld yma.

Previous Page .. Croeso Next Page .. Rhagair



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)