Cysylltiad partner
|
 |
|
 |
 |
 |
Rhydych chwi yma: Home > BBChM yng Nghymru > Y newyddion a'r trafodaethau diweddaraf am eFasnach > Dod o hyd i Gyflenwyr eFasnach yng Nghymru
|
| |
Dod o hyd i Gyflenwyr eFasnach yng Nghymru
Gall rhaglen Cyfle Cymru roi cyngor ar beth i edrych amdano a pha gwestiynau i'w gofyn wrth ddewis cyflenwyr eFasnach. Gallai hyn fod ar lefel dod o hyd i ddatblygwr y We proffesiynol, dewis Darparwr Gwasanaeth y Rhyngrwyd (ISP) i gael mynediad i'r Rhyngrwyd neu gynnal Gwefan.
Hwyrach y bydd defnyddwyr mwy profiadol am gael cyngor ar y mathau o gynnyrch a fydd yn eu galluogi i werthu ar-lein drwy eGatalog, ac nad ydynt yn siwr pa opsiynau sydd ar gael, neu lle y mae cynnyrch o'r fath ar gael a pha gwestiynau i'w gofyn.
Nid yw Cyfle Cymru'n cadw cronfa ddata o gyflenwyr "cymeradwy", ac nid yw'n rhan o'i chylch gorchwyl i wneud hynny. Mae erthyglau eraill ar y porth, fel dewis datblygwr tudalen y we a dewis Darparwr Gwasanaeth y Rhyngrwyd, yn rhoi cefndir defnyddiol i chi ar beth i chwilio amdano a pha gwestiynau i'w gofyn, ac, yn bwysicach fyth, sut i ddehongli ymatebion.
Mae'n ddigon posibl y bydd gan eich darparwr gwasanaeth Cyfle Cymru cymeradwy lleol restrau o gyflenwyr y gwyddys eu bod yn cynnig gwasanaethau yn eich ardal. Ni chymeradwyir yr un o'r rhain yn ffurfiol ac, ar hyn o bryd, nid oes unrhyw achrediad cenedlaethol na rhyngwladol ar gyfer datblygwyr tudalennau'r We, sy'n ddiwydiant gweddol newydd lle y mae amrediad eang o unigolion, sy'n meddu ar sgiliau ac arbenigedd amrywiol, wedi sefydlu eu hunain fel "arbenigwyr".
Gwnewch ddefnydd o'ch cysylltiadau busnes. Daw enw da cyflenwyr lleol yn hysbys yn gyflym ac, yn aml, gall dilyn argymhelliad gan gyfaill neu gyswllt busnes fod yn fuddiol, er bod angen dilyn y meini prawf dewis a'r cwestiynau sylfaenol o hyd.
Gallwch edrych yn y wasg leol ond byddwch yn wyliadwrus o hysbysebion sy'n addo trawsnewid eich busnes yn llwyddiant eFasnach am £500 yn unig. Ni chewch unrhyw beth am ddim! Yn yr un modd, nid yw cael Gwefan yn gwarantu eich llwyddiant.
Er y gall defnyddio datblygwr lleol ar gyfer eich Gwefan fod yn gyfleus, nid yw dewis Darparwr Gwasanaeth y Rhyngrwyd lleol bob amser mor bwysig, er, ar adegau, gall fod yn fanteisiol. Mae llawer o gwmnïau lleol yn cynnig gwasanaethau datblygu Gwefannau ac yn gweithredu fel Darparwyr Gwasanaeth y Rhyngrwyd hefyd. Yn yr un modd, mae gan rai datblygwyr drefniadau gyda Darparwyr Gwasanaeth y Rhyngrwyd dewisol i argymell eu gwasanaethau i unrhyw gleientiaid newydd. Hwyrach y bydd gennych ddiddordeb mewn darllen rhai o'r cylchgronau eFasnach, er mwyn ymchwilio i ddarpar gyflenwyr. Mae llawer ohonynt yn cynnal adolygiadau o wasanaethau Darparwyr Gwasanaeth y Rhyngrwyd yn rheolaidd, yn enwedig rhai sy'n ymwneud ag ansawdd ac argaeledd y gwasanaeth. Gallai adolygiadau o'r fath helpu busnesau bach a chanolig eu maint i nodi cyflenwr addas. Dylid cofio bod llawer o Ddarparwyr Gwasanaeth y Rhyngrwyd yn cynnig gwasanaethau sy'n arbennig o addas i fusnesau bach a chanolig eu maint, sy'n cynnwys nid yn unig mynediad i'r Rhyngrwyd a gwasanaethau cynnal, ond templedi sylfaenol ar gyfer tudalennau'r We hefyd, ac, mewn rhai achosion, catalogau ar-lein a chyfleusterau talu hyd yn oed.
Hwyrach y bydd y busnesau bach a chanolig eu maint hynny sydd eisoes â mynediad i'r Rhyngrwyd yn dymuno defnyddio'r dechnoleg i ddod o hyd i ddarpar gyflenwyr. Hwyrach y byddwch eisoes wedi sylweddoli y gall y dulliau o chwilio ddod o hyd i lawer o gyflenwyr sy'n cyfateb â'ch ymholiad chwilio. Ond, faint ohonynt mewn perthynas â datblygwr tudalennau'r We, dyweder, sydd wedi'u lleoli yn eich ardal?
Mae dulliau o chwilio sy'n benodol i'r DU yn bodoli, fel Altavista a Google, ond mae hyd yn oed y rhain yn cynnwys rhai safleoedd nad ydynt yn perthyn i'r DU, a hwyrach na fydd busnes bach a chanolig ei faint yng Nghonwy yn dymuno dod o hyd i ddatblygwr y we yn Aberdeen.
Caiff cyfeiriaduron lleol eu sefydlu ar y rhyngrwyd fwyfwy, fel cyfeiriadur Gwynedd gan Matren sy'n rhestru cwmnïau lleol sydd â phresenoldeb ar y We, a cheir cyflenwyr eFasnach o fewn y cyfeiriaduron.
Mae dulliau o chwilio sy'n gysylltiedig â Chymru hefyd. Mae rhai ohonynt yn cynnwys safleoedd lle y caiff geiriau perthnasol fel Cymru a Chymreig eu cynnwys, ac mae'n bosibl y gallech ddod o hyd i ddatblygwr Gwefannau yn New South Wales yn ogystal ag un yn Sir Gaerfyrddin.
Mae dulliau o chwilio eraill fel Mynegai Gogledd Cymru yn canolbwyntio llawer mwy ar safleoedd yng Nghymru. Er y gallai nifer gyffredinol y gwefannau a gofrestrwyd yn eu rhestrau fod yn llai, maent yn fwy penodol. Mae Mynegai Cymru yn rhannu ei hun yn ddull o chwilio ar gyfer ardaloedd unigol yng Nghymru, yn ogystal â chwiliad ar gyfer y wlad gyfan. Daeth chwiliad am ddylunydd y We yng Ngogledd Cymru, er enghraifft, o hyd i fanylion am 103 o gwmnïau.
|
|

|
 |
|