Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
BBChM yng Nghymru
Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > BBChM yng Nghymru > Storïau Llwyddiant eFasnach > Twristiaeth a Hamdden > Y Stabal

 

Y Stabal
Llanuwchllyn, Gwynedd

eFasnach yn cynyddu cyfraddau deiliadaeth

Y Stabal

Busnes bach yw Y Stabal wedi’i leoli’n agos i’r Bala, yng Ngwynedd, sy’n gweithredu un bwthyn hunan-arlwyo mawr, wedi’i gydnabod gan Fwrdd Croeso Cymru.  Pan benderfynodd y Perchennog, Sue Jones wella ac uwchraddio’r adeilad (gyda’r bwriad o gael gradd uwch gan Fwrdd Croeso Cymru) gwariwyd llawer iawn o arian ar yr adeilad.  O ganlyniad, roedd angen iddi wneud elw cyflym ar ei buddsoddiad.

Meddyliodd Sue y gallai’r Rhyngrwyd ddarparu’r ffordd ymlaen ac roedd ganddi Wefan sylfaenol eisoes ar gyfer Y Stabal, ond ychydig iawn o brofiad a oedd ganddi yn y maes hwn.  Cysylltodd â Cyfle Cymru ym mis Chwefror 2003 a chafodd Sue gyfarfod â Mandy Jones, un o’r ddau Ymgynghorydd eFasnach sy’n gweithio ar ran Cyfle Cymru gyda Bwrdd Croeso Cymru.

Nid oedd eFasnach yn rhywbeth newydd i Sue ond ni roddodd lefel ei phrofiad presennol lawer o hyder iddi y gallai helpu ei busnes bach.  Prynodd Wefan sylfaenol tuag at ddiwedd 2001 am tua £250.  Nid oedd y wefan wedi’i chofrestru ag unrhyw ddulliau chwilio am mai ei hunig fwriad oedd bod yn fan cyfeirio i bobl gael eu cyfeirio ati o argraffu hysbysebion papur a chael llyfryn Y Stabal.

Yn 2002, cafodd Y Stabal ei gynnwys yn llyfryn Eryri a chafodd ei gynnwys hefyd ar Wefan ‘Visit Wales’ Bwrdd Croeso Cymru, a sefydlwyd i gymryd ceisiadau archebu llety gan gwsmeriaid.  Cafodd Y Stabal hefyd ei gynnwys ar y Gwefannau ‘Stay in Wales’ a ‘Cottage Guide’ a oedd yn cynnwys cysylltiadau a oedd yn arwain at Wefan Y Stabal.  O ganlyniad, gwelodd Sue ei bod yn treulio llawer o’i hamser yn sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf ar y gwefannau hyn.

Yn dilyn ei chyfarfod adolygiad eFasnach gyda Sue, lluniodd Mandy Adroddiad eFasnach ar gyfer y busnes a roddodd argymhellion ar sut y gallai Y Stabal wneud defnydd gwell o eFasnach.  Amlinellodd yr adroddiad sawl ffordd y gallai Y Stabal gynyddu eu defnydd o eFasnach i farchnata eu busnes yn fwy effeithiol.  Yn benodol awgrymodd yr adroddiad y dylai Y Stabal gynyddu eu defnydd o eBost i ateb ymholiadau a sicrhau archebion llety.  Awgrymodd hefyd y dylid gwella’r cynnwys sy’n disgrifio’r bwthyn ar eu Gwefan ac mewn cyfeirlyfrau eraill.  Awgrymwyd hefyd y dylid creu cronfa ddata eBost o gleientiaid at ddibenion marchnata dros yr eBost.  Ymhlith y gwelliannau eraill a awgrymwyd roedd galluogi’r safle i gael statws uwch ar restrau dulliau chwilio, gan gael gwared â fframiau’r wefan a fyddai’n gostwng eu statws ar restrau dulliau chwilio, a defnyddio gwell graffeg ar eu gwefan.

O ganlyniad i’w hadolygiad eFasnach, trefnodd Sue i Wefan newydd gael ei datblygu er mwyn gweithredu awgrymiadau Mandy.  Cost y wefan oedd tua £700, gyda Chymorth Cleient Cyfle Cymru yn ariannu 35% o’r gost honno.

Mynychodd gŵr Sue weithdy ‘Visit Wales’, er mwyn gwella cynnwys Y Stabal ar ‘Visit Wales’.  Yn ogystal â gwella’r manylion ar wefan ‘Visit Wales’, cafodd holl gyfraddau Y Stabal eu cynnwys ar-lein, crëwyd rhestr cynigion arbennig a chynhaliwyd gwiriadau i sicrhau y byddai Y Stabal yn ymddangos yn y chwiliadau cwsmeriaid angenrheidiol.  Cysylltodd Sue â’r gwefannau ‘Cottage Guide’ a ‘Stay in Wales’ i drefnu i ddiweddaru’r wybodaeth ar y gwefannau hyn yn rheolaidd.  Rhoddodd hefyd hysbyseb ar y Wefan Croeso Cynnes.

Yn ystod y ‘diwrnodau gweithredu’ cydweithiodd Sue a Mandy i ysgrifennu llythyrau i ateb y mathau mwyaf cyffredin o ymholiadau eBost.  Cafodd y llythyrau hyn eu safio fel templedi a’u cadw i Sue allu eu copïo a’u gludo i negeseuon eBost, fel y bo angen.  Gellir addasu’r negeseuon hyn yn hawdd i gyd-fynd â phob ymholiad unigol.

Helpodd Mandy hefyd i roi llofnod ar waelod pob neges eBost sy’n cael ei hanfon gan y busnes, er mwyn helpu i hysbysebu cyfeiriad y Wefan.  Gyda’i gilydd llwyddont hefyd i lunio holiadur i’r gwesteion ei gwblhau.  Byddai’r arolwg yn rhoi’r opsiwn i gwsmeriaid ddarparu eu cyfeiriad eBost, er mwyn derbyn newyddlenni rheolaidd a fyddai’n nodi digwyddiadau yn y dyfodol, gweithgareddau, gwybodaeth am Y Stabal a’r ardal leol.  Mae’r holiadur hefyd yn gofyn i gwsmeriaid sut y daethant i wybod am Y Stabal a’r hyn y gwnaethant ei fwynhau/na wnaethant ei fwynhau yn ystod eu harhosiad.

O ganlyniad i’r holl waith a wnaed gan Sue a Mandy, mae cyfraddau deiliadaeth Y Stabal wedi cynyddu’n sylweddol.  Rhwng mis Gorffennaf a chanol mis Hydref 2003, dim ond am un diwrnod yr oedd y bwthyn yn wag.  Gwefan Y Stabal a ysgogodd bron pob archeb, yn bennaf oherwydd defnydd cynyddol o’r eBost er mwyn ymateb i ymholiadau.

Bu’r adborth gan ymwelwyr â’r safle yn dda iawn a chafodd Sue sawl sylw canmoliaethus am faint ac ansawdd y wybodaeth sydd ar gael.  Mewn cyfnod cymharol fyr o amser mae Y Stabal wedi cynyddu eu trosiant, a thrwy ddefnyddio atebion eFasnach cost isel yn llwyddiannus caiff y busnes bellach ei farchnata’n effeithiol i ddarpar gwsmeriaid.  

Arwyddlun o'r Byd - URL / Symbol of the Globe - URLwww.y-stabal.co.uk

Pamffled

Mae pamffled o stori eFasnach llwyddiannus Y Stabal nawr ar gael. Gallwch ei lawr lwytho fel PDF (53k), neu am fersiwn argraffedig neu am gopi o unrhyw deunydd darllen Cyfle Cymru, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Astudiaeth achos

Mae astudiaeth achos manwl a chynhwysfawr Y Stabal nawr ar gael.  Gallwch ddarllen yr astudiaeth achos yma wrth ymaelodi â Gwefan Cyfle Cymru.  Ar ôl derbyn eich cyfrinair trwy eBost, gallwch logio i fewn i hafan yr aelodau ac yna lleoli'r astudiaeth achos yma yn ogystal a llawer mwy yn yr adran Astudiaethau Achos.


 
In order to use this facility you must LOGON.To use this feature you must first login



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)