Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
BBChM yng Nghymru
Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > BBChM yng Nghymru > Storïau Llwyddiant eFasnach > Twristiaeth a Hamdden > Under the Thatch

 

Under the Thatch
Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion

Under the Thatch

Defnyddio eFasnach i gynyddu busnes

Busnes cartrefi gwyliau bach wedi’i redeg gan Dr Greg Stevenson yw Under the Thatch.  Mae’r busnes yn arbenigo yn y broses o adnewyddu hen adeiladau Cymreig, tra’n cadw eu cymeriad gwreiddiol.  Cânt eu rhentu fel cartrefi gwyliau i farchnad darged gydag anghenion penodol iawn.  Mae Dr Stevenson yn darlithio’n rhan amser mewn pensaernïaeth gynhenid Gymreig ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan.  Fel arbenigwr cydnabyddedig ar y pwnc hwn, gofynnir iddo ysgrifennu erthyglau ar gyfer amryw o gylchgronau yn rheolaidd.

Mae ei gefndir wedi’i alluogi i adfer yr adeiladau i’w cyflwr gwreiddiol; cymerir gofal arbennig gyda’r addurn mewnol i adlewyrchu cyfnod gwreiddiol y bythynnod.  Mae’r adeiladau wedi ymddangos ar sawl rhaglen deledu proffil uchel ac mewn cylchgronau fel ‘Period Property’.  Mae cyfanswm o dri bwthyn to gwellt hanesyddol ar gael i’w rhentu.

Cyn cysylltu â Cyfle Cymru, roedd gan Under the Thatch Wefan sylfaenol www.underthethatch.co.uk.  Roedd y safle yn cynnwys cyngor ar adnewyddu hen fythynnod, gwybodaeth am brojectau arfaethedig ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â gwybodaeth i bobl â diddordeb mewn rhentu un o’r bythynnod.  Er bod y Wefan bresennol yn dod â busnes, roedd Dr Stevenson yn sicr nad oedd yn gwneud y defnydd gorau o eFasnach a chysylltodd â Cyfle Cymru i gael cyngor proffesiynol.  Rhwng mis Hydref 2002 a mis Awst 2003, manteisiodd Under the Thatch ar ddau adolygiad eFasnach, a oedd yn canolbwyntio ar sut y gellid defnyddio eFasnach i farchnata’r bythynnod yn effeithiol.

Gyda’i ymgynghorydd eFasnach nododd Dr Stevenson y byddai’r bythynnod yn debygol o apelio at dwristiaid sy’n chwilio am wyliau anghyffredin.  Roeddent hefyd o’r farn y byddai’r bythynnod yn addas iawn i gyplau a oedd am ymweld ag ardal wledig Canolbarth Cymru ar wyliau llawn gweithgaredd.  Yn ogystal, ystyriwyd y byddai cyplau canol oed yr oedd eu plant wedi gadael cartref a chanddynt bellach incwm uwch i’w wario a mwy o amser hamdden (“empty nesters”) yn farchnad darged a allai fod yn llewyrchus.

Gwnaeth adolygiad eFasnach Under the Thatch sawl argymhelliad arall i wella eu Gwefan.  Roedd y rhain yn cynnwys datblygu system archebu ar-lein sy’n hawdd i’w defnyddio, gan alluogi gwestai i dalu am eu llety yn ddiogel dros y Rhyngrwyd.  Awgrymwyd hefyd y dylid rhoi lle amlwg i rif ffôn Under the Thatch ar y wefan, y dylid gallu cyflwyno ymholiadau’n hawdd, ac y dylai’r busnes ddechrau defnyddio’r e-bost yn rheolaidd i ymateb yn gyflym i ymholiadau.  Esboniodd yr adolygiad sut i ddatblygu a defnyddio newyddlen e-bost, rhoi gwybod i danysgrifwyr am brosiectau adnewyddu newydd, llety ar gael a chynigion arbennig.  Nododd yr adolygiad hefyd sut i ddefnyddio geiriau allweddol i roi statws gwell i’r Wefan ar ddulliau chwilio, pwysigrwydd cyflwyno’r safle i ddulliau chwilio, ac argymhellion ar gyfer y geiriau allweddol i’w defnyddio.  Darparwyd gwybodaeth hefyd am gynllun Band eang lloeren Awdurdod Datblygu Cymru, ynghyd â gwybodaeth am lawer o opsiynau cyswllt “ar unrhyw adeg”.

Ar ôl gweithredu argymhellion yr adolygiad cyntaf, sylwodd Greg ei fod yn dechrau cael mwy o ymwelwyr o dramor.  Awgrymodd ei ymgynghorydd eFasnach y dylai brynu enw’r parth www.underthethatch.com, er mwyn helpu i ddenu ymwelwyr o America a gwledydd eraill.  Argymhellwyd hefyd y dylai Under the Thatch sefydlu cyswllt cyflymach i’r Rhyngrwyd.

Mae Gwefan Under the Thatch wedi datblygu dros y pymtheg mis ers Adolygiad cyntaf Cyfle Cymru yn 2002, ac mae ganddi bellach wybodaeth fanwl am bob un o’r tri adeilad, yr ardal leol, a gwybodaeth am sut i gysylltu â’r busnes.  Mae’r nodweddion newydd yn cynnwys argaeledd munud olaf a chynigion arbennig, ac maent yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr â’r wefan.  Rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y projectau adnewyddu ac mae’r adran hon yn cael llawer o ymwelwyr sy’n dychwelyd dro ar ôl tro.

Yn ddiweddar, mae Under the Thatch wedi treblu ei drosiant, yn bennaf oherwydd argaeledd yr adeiladau ychwanegol i’w rhentu, ond mae eFasnach wedi chwarae rhan sylweddol yn y broses o farchnata’r rhain.  Mae eu cyfradd deiliadaeth bron yn 100% drwy gydol y flwyddyn – sy’n anghyffredin iawn yn y diwydiant twristiaeth yng Nghymru!  Mae syniad Dr Stevenson i hysbysebu gwyliau munud olaf ar eBay hefyd wedi cynyddu nifer yr archebion, ac wedi denu nifer aruthrol o bobl i ymweld â’u Gwefan.  O ganlyniad, roedd rhestrau wrth gefn ar gyfer y bythynnod ar gyfer pob wythnos rhwng mis Ebrill a mis Hydref 2003.  Am bob gwyliau munud olaf a werthodd drwy eBay cafodd chwe ymholiad arall a arweiniodd at archebu llety!

Greg Stevenson

Nid yw Under the Thatch yn aros yn ei unfan ac mae Greg yn gobeithio ymgymryd â nifer o brojectau newydd yn 2004 gan gynnwys trawsnewid gofaint o’r 1820au yn llety gwyliau, adnewyddu tŷ parod o gyfnod 1940au yr ail ryfel byd, ynghyd â Dodrefn Cyfleustod, ac adnewyddu carafán Sipsi.  Mae cariad Greg tuag at ei fythynnod a’i waith adnewyddu i’w weld yn ei ymdrech i ddatblygu ei fusnes.  Mae’r cyngor a’r cymorth a roddwyd gan Cyfle Cymru wedi helpu ei fusnes i lwyddo yn gyflym.

Arwyddlun o'r Byd - URL / Symbol of the Globe - URLwww.underthethatch.co.uk

Opportunity WalesMae’r cwmni hwn yn un o nifer o geientiaid Cyfle Cymru sydd wedi manteisio ar ein pecyn Cymorth Gweithredu, sy’n darparu cymorth eFasnach gwerthfawr a datblygedig am bris rhesymol iawn.  Mae Cymorth Gweithredu ar gael i holl gleientiaid newydd a phresenol Cyfle Cymru. Am fwy o wybodaeth ewch i’n tudalen Cymorth Gweithredu neu Cysylltwch â ni.

Pamffled

Mae pamffled o stori eFasnach llwyddiannus Under the Thatch nawr ar gael.  Gallwch ei lawr lwytho fel PDF (50k), neu am fersiwn argraffedig neu am gopi o unrhyw deunydd darllen Cyfle Cymru, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Astudiaeth achos

Mae astudiaeth achos manwl a chynhwysfawr Under the Thatch nawr ar gael.  Gallwch ddarllen yr astudiaeth achos yma wrth ymaelodi â Gwefan Cyfle Cymru.  Ar ôl derbyn eich cyfrinair trwy eBost, gallwch logio i fewn i hafan yr aelodau ac yna lleoli'r astudiaeth achos yma yn ogystal a llawer mwy yn yr adran Astudiaethau Achos.


 
In order to use this facility you must LOGON.To use this feature you must first login



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)