Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
BBChM yng Nghymru
Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > BBChM yng Nghymru > Storïau Llwyddiant eFasnach > Celf a Chrefft > Kate Glanville

 

Kate Glanville
Llandeilo, Sir Gaerfyrddin

Celfydwaith

Mae’r artist serameg Kate Glanville wedi bod yn cynhyrchu crochenwaith llestri pridd wedi’u peintio â llaw o’i stiwdio ger Llandeilo ers 1990.  Mae’n peintio pob darn yn unigol â llaw gan ddefnyddio sglein maiolica o liwiau llachar yn ei harddull ddarluniol unigryw a bywiog ei hun.  Mae Kate yn rhoi agwedd gyfoes wreiddiol ar dechneg addurniedig draddodiadol Brydeinig.  Mae’r platiau coffaol personol yn rhodd unigryw i ddathlu achlysur arbennig ac mae teils a phaneli teils yn un o arbenigeddau Kate.  Mae Kate yn gweithio ar ei phen ei hun ac yn gwerthu’r rhan fwyaf o’i gwaith serameg mewn orielau a siopau.  Nid yw cyfanwerthu yn gost effeithiol iddi oherwydd bod popeth yn cael ei gynhyrchu â llaw, ac felly nid yw prisiau gwerthiant swmpus o fantais iddi.

Kate Glanville

Ar ôl darllen erthygl yng nghylchlythyr Crefftau Cymru yn 2001 sylweddolodd bod angen iddi siarad â rhywun am y posibilrwydd o ddechrau busnes ar-lein.  Roedd gan Kate Wefan eisoes ond fe’i cynlluniwyd ychydig o flynyddoedd ynghynt gan ffrind a oedd yn gweithio yn y diwydiant TG ac a oedd yn frwdfrydig iawn ynglŷn â’r cyfleoedd masnachu ar-lein a brofodd yn yr Unol Daleithiau.  Teimlodd Kate ychydig o dan bwysau ond gadawodd iddo ddylunio a chreu’r Wefan, heb gyfrannu llawer at y gwaith o gwbl, heblaw am dalu’r ffioedd cynnal.  Am bron i ddwy flynedd roedd y safle’n segur ac ond yn cael ei defnyddio ganddi ar gyfer cyfeirio ati mewn hysbysebion oddi ar-lein.

Yn ystod y cyfarfod ar gyfer arolwg cyntaf Cyfle Cymru ym mis Tachwedd 2001 edrychwyd, nid yn unig ar eFasnach, ond ar faterion busnes cyffredinol hefyd.  Gwnaeth iddi ddadansoddi ei busnes, a phenderfynu i ba gyfeiriad roedd yn mynd.  Profodd hyn yn amhrisiadwy.  Gwnaeth iddi ffocysu ei meddyliau ac fe’i gwnaeth yn ymwybodol o’r hyn roedd yn ei wneud yn ogystal ag i ba gyfeiriad yr oedd am arwain y busnes, yn hytrach na dim ond ‘hwylio yn ei blaen’.  Heb hyn oll, cred y byddai’n dal i fod yn hwylio’n araf yn ei blaen, neu hyd yn oed wedi rhoi’r gorau i’r busnes.

Fodd bynnag, ar yr ochr eFasnach, roedd yr arolwg yn cynnig her.  Edrychodd ar sut y gallai’r Wefan helpu’r busnes.  Roedd yn cwmpasu gwelliannau i’w gwneud i’r Wefan, marchnata’r wefan yn well, cymryd taliadau ar-lein ac adeiladu cysylltiadau.

Roedd Kate newydd brynu ei chyfrifiadur personol cyntaf ac nid oedd syniad ganddi sut i anfon eBost, heb sôn am reoli Gwefan.  Ni ddilynodd y cyngor a gafodd yn yr arolwg yn syth, oherwydd nid oedd yn gallu gweld sut i weithredu’r argymhellion, ac nid oedd ychwaith yn gallu gweld sut y byddai’r Wefan yn fuddiol i’w busnes.  Daeth y trobwynt pan benderfynodd gael Diwrnod Gweithredu er mwyn iddi ddysgu sut i wneud y pethau sylfaenol ar y cyfrifiadur, anfon negeseuon eBost a mynd ar-lein.

Dros gyfnod o flwyddyn roedd ei chanfyddiad wedi newid.  Daeth yn fwy hyderus wrth ddefnyddio’r Rhyngrwyd, prynodd ambell eitem ar-lein ei hun a chollodd yr ofn a fu arni wrth ddefnyddio’r Rhyngrwyd.  Cafodd fwy o ymholiadau ar ei gwefan ei hun gan ymwelwyr hefyd.

O ganlyniad i hyn, gofynnodd i ddylunydd Gwe lleol wneud rhai mân newidiadau i’r safle gwreiddiol, fel lliw cefndirol, prisiau a diweddaru rhai o’r lluniau.  Yn anffodus, nid oedd yn teimlo’n gyfforddus yn gweithio gyda’r datblygwr hwn oherwydd roedd yn ceisio’i “dallu â thechnoleg” yn hytrach na gwrando ar ei dymuniadau o ran dylunio.

Ar ôl ei hail arolwg, a oedd yn cynnwys ailddylunio’r Wefan, materion marchnata, materion cyfreithiol, taliadau ar-lein a mesur poblogrwydd y safle, penderfynodd ailddylunio’r safle o’r newydd.  Ar ôl cael cymorth gan Cyfle Cymru, llwyddodd i ddod o hyd i ddylunydd Gwe da y mae’n teimlo’n gyfforddus yn gweithio gydag ef.  Mae’r safle’n gweithio erbyn hyn ac mae’n rhoi argraff well o’r holl fusnes ac yn caniatáu iddi ryngweithio’n well gyda’i chwsmeriaid.

Kate Glanville

Bu hwn o gymorth iddi roi cyfarwyddyd i ddylunydd Gwe i wneud y mân newidiadau cyntaf i’r wefan, fel newidiadau i’r prisiau, cefndir gwahanol a diweddaru rhai lluniau am ffi bychan (£100).  Fodd bynnag, nid oedd yn teimlo’n gyfforddus yn delio â’r dylunydd hwn, oherwydd roedd yn ceisio creu argraff dda arni gan ddefnyddio jargon yn hytrach na gwrando ar ei dymuniadau o ran golwg a theimlad y safle.

Fodd bynnag, un peth a wnaeth hynny oedd rhoi mwy o ymdeimlad o berchenogaeth iddi am ei Gwefan, a theimlodd yn hyderus i’w rheoli a’i gweddnewid a chymryd ei photensial o ddifrif.  Dyma’r rheswm dros ofyn am yr ail arolwg.  Roedd yn barod i gymryd cam cadarnhaol ymlaen gydag ochr eFasnach y busnes.

Meddai Kate am y cymorth: “Rhoddodd fwy o ddealltwriaeth i mi o’r ffordd roedd y Wefan yn gweithio a mwy o hyder wrth ddefnyddio cyfrifiaduron.  Dysgais sut i sganio brasluniau ac anfon y rhain dros yr eBost at gleientiaid i’w cymeradwyo.  Y bonws ychwanegol oedd cael grant a oedd o gymorth i mi weddnewid fy Ngwefan a thalu am ei hysbysebu.”

Canlyniad hyn yw bod masnach ryngwladol Kate wedi cynyddu, o ddechrau ar ddim, ac mae wedi cael archebion o Singapore a’r Unol Daleithiau.  Nid oes rhaid iddi ddibynnu ar archebion siopau gymaint ac felly mae ei helw yn cynyddu.

“Erbyn hyn rwy’n cael ymholiadau gan ddarpar-gwsmeriaid yn holi a allant dalu ar-lein.  Rydw i wedi gofyn i Cyfle Cymru fy helpu ymlaen i’r cam hwn o eFasnach.”

Erbyn hyn, mae ei gwefan newydd yn weithredol ac mae Kate yn edrych ymlaen at ddysgu sut i’w rheoli, ac mae’n hyderus o wybod y gall alw am gymorth diduedd Cyfle Cymru os bydd angen cyngor pellach arni.  

Arwyddlun o'r Byd - URL / Symbol of the Globe - URLwww.kateglanville.co.uk


 
In order to use this facility you must LOGON.To use this feature you must first login



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)