|
Gwesty Bryn Bella Betws-y-Coed, Conwy
Mae Bryn Bella yn westy llwyddiannus sy’n marchnata ei hun fel un o’r gwestai gwely a brecwast gorau yn Eryri. Mae wedi ennill gwobr Red Diamond yr AA ar gyfer 2004/5. Er bod technoleg wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r ‘swyddfa gefn’, mae’r gwesty hefyd yn ei defnyddio yn yr ystafelloedd eu hunain, ac mae cyfleusterau Rhyngrwyd ar gael yn lolfa’r gwesteion.

Mae’r farchnad dwristiaeth a llety yn y Gogledd yn orlawn, gyda chystadleuaeth frwd iawn i ymwelwyr ag ardal mor unigryw a phrydferth. Mae meddu ar le amlwg yn y farchnad fyd-eang yn hanfodol, a’r Rhyngrwyd yw’r lle gorau i wneud hynny. Mae gwesty Bryn Bella wedi ymateb i’r her honno.
Er mwyn sicrhau bod darpar gwsmeriaid yn dod yn westeion, cysylltodd tîm Bryn Bella â Cyfle Cymru i gael adolygiad eFasnach am ddim. Bu Dave Copper, un o ymgynghorwyr Cyfle Cymru sy’n meddu ar sgiliau busnes twristiaeth arbenigol, yn gweithio gyda Mark Edwards, gwesty Bryn Bella, i roi hwb i bresenoldeb y gwesty ar-lein, a sicrhau bod gan y busnes strategaeth gadarn wrth iddo symud ymlaen gan wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg a defnydd mwy effeithiol ohono.
Erbyn hyn, mae gan y safle gyfleusterau archebu ar-lein, drwy wasanaethydd diogel. Mae hyn wedi helpu i gael mwy o bresenoldeb ar-lein. Dywedodd Mark, “rydym wedi sylwi mai o’r Gwefannau hynny sydd â chyswllt uniongyrchol â’n Gwefan ni yw’r rhai mwyaf llwyddiannus, ac mae’n arbennig o effeithiol os oes ganddynt gyswllt â’n system archebu ni.” Gall unrhyw aelod o staff gymryd archebion, p’un a ydynt yn y gwesty ai peidio, gan sicrhau eu bod yn ymateb ar unwaith i ymholiadau ac archebion. Maent hefyd wedi datblygu cyswllt o bell, sy’n caniatáu i staff gofnodi ac ymateb i archebion newydd pan nad ydynt yn y gwesty, drwy ffôn symudol, sy’n cydamseru â’r gwasanaethydd. Ar hyn o bryd, gwneir tua 4 o bob 10 archeb ar-lein.
Caiff gwybodaeth ei throsglwyddo i’r pecyn ACT, y mae tîm Bryn Bella yn ei defnyddio ar gyfer Rheoli Cydberthnasau â Chwsmeriaid. Mae nid yn unig yn darparu cyfleusterau rheoli llawn ar gyfer gwesteion y gorffennol a’r dyfodol, ond mae’n argraffu cardiau cofrestru er mwyn cyflymu’r broses archebu - fel y dywed Mark, “ mae hyn yn hollbwysig pan fydd y gwesteion wedi bod yn gyrru am oriau, ac yn cyrraedd yn hwyr yn y nos”. Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth fel pen-blwyddi’r gwesteion, a dyddiadau pwysig er mwyn ychwanegu elfen bersonol ar gyfer gwesteion sy’n dathlu achlysur yn y gwesty.
Mae Gwefan Bryn Bella wedi gwella’n sylweddol drwy ychwanegu mwy o gynnwys sy’n sôn am weithgareddau poblogaidd sydd ar gael yn lleol. Erbyn hyn, mae nodweddion Gwe ychwanegol yn cynnwys beicio mynydd a cherdded. Wrth gwrs, mae cynnwys yn un peth, ond mae cyhoeddi’r cynnwys yn beth arall, ac mae’r tîm wedi sicrhau eu bod yn defnyddio geiriau allweddol er mwyn sicrhau eu bod yn ymddangos yn amlwg iawn ar y dulliau o chwilio (yn yr achos hwn, Google Adwords). Soniodd Mark bod y farchnad beicio mynydd wedi ymateb yn frwdfrydig i’r cynnwys newydd sydd ar gael ar Wefan Bryn Bella, gan sicrhau bod y gwesty yn meithrin cronfa gwsmeriaid ffyddlon sy’n dod ag elw i’r busnes.
Caiff y Wefan ei hategu gan gylchlythyr misol, sy’n cynnwys nifer o gyfweliadau bob mis. Gyda nifer y bobl sy’n derbyn y cylchlythyr yn cynyddu tua 50 bob mis, mae’n hollbwysig sicrhau bod y cynnwys yn gywir – ac mae Mark wedi sylwi bod dwy brif farchnad yn defnyddio’r Wefan yn rheolaidd, sef ymwelwyr tramor, a gwesteion sy’n dychwelyd, sy’n cyfrif am 15% o werthiannau (11% y llynedd). Mae’r cylchlythyr yn cynnwys nifer o erthyglau ar amrywiaeth o bynciau, sy’n denu pobl i archebu, ac mae hefyd yn hysbysebu cynigion arbennig munud olaf.
Yn y dyfodol, bydd y cylchlythyr yn ceisio targedu negeseuon penodol at westeion yn seiliedig ar eu diddordebau personol. O ran Gwefan Bryn Bella, mae strategaethau ‘talu fesul clic’ ar y gweill hefyd, yn ogystal â datblygu cynnwys sy’n llawn ysbrydoliaeth i gleientiaid penodol drwy gydol y flwyddyn.
Yn sgîl y llwyddiant hwn, mae’n rhaid holi beth yw barn Mark ar wasanaethau Cyfle Cymru? “Rhoddodd Cyfle Cymru gyfle i ni weld ffordd glir ymlaen drwy’r dryswch o gyfleoedd. Roeddem eisoes yn gwybod yr hyn roeddem am ei gyflawni, ac i ba gyfeiriad roeddem am fynd, ond roedd adolygiad Cyfle Cymru yn ein galluogi i fireinio’r hyn roeddem yn ei wneud ar y pryd, ac yn cadarnhau ein bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir. Mae’r canlyniadau yn amlwg i bawb.”
www.bryn-bella.co.uk
|