|
Active Music Services Aberdâr, Rhondda Cynon Tâf

Roedd Dinah Pye o Aberdâr wedi cael gyrfa lwyddiannus mewn cerddoriaeth ac addysgu am dros 30 mlynedd cyn penderfynu dechrau ei busnes ei hun yn 2001. Oherwydd ei hanabledd, gwelodd Dinah mai defnyddio’r Rhyngrwyd ac eFasnach oedd yr unig ffordd ymarferol y gallai redeg ei busnes ei hun. Drwy ddefnyddio ei chefndir cerddorol, dechreuodd Dinah Active Music Services (AMS) i ehangu apêl cerddoriaeth glasurol a sicrhau ei bod ar gael i bawb heb ystyried eu profiad na’u gallu. Mae cynnyrch Dinah yn defnyddio cyflwyniad graffigol a gweithgareddau clywedol er mwyn ehangu’r ddealltwriaeth a’r mwynhad o gerddoriaeth ac maent o les arbennig i blant. Mae’r cynnyrch yn cynnwys nodiadau ar raglenni cyngherddau, adnoddau ystafell ddosbarth a gweithgareddau addysgu ar gyfer athrawon cerddoriaeth. Mae Cerddorfa Genedlaethol y BBC yng Nghymru, Côr Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Academi St Martin’s in the Field, Cerddorfa Symffoni Lloegr, Gyl Gerddorol Abertawe, Gyl Bro Morgannwg a Sioe Gerdd Showcase/Cymdeithas y Celfyddydau Perfformio ymhlith cwsmeriaid AMS. 
Dywedodd Dinah: "Mae eFasnach yn hwylusydd mawr ac yn ffordd allweddol i gyfathrebu yn yr 21ain ganrif. Mae wedi rhoi’r cyfle i mi i redeg fy musnes fy hun - rhywbeth yr wyf yn sicr na allwn fod wedi’i wneud hebddi". Cynghorodd Cyfle Cymru Dinah ar ffyrdd i wella Gwefan AMS a sut y gallai ddefnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy effeithiol, er enghraifft, at ddibenion ymchwil a marchnata. Dinah yw’r cyntaf i gyfaddef na fu dechrau busnes yn seiliedig ar y Rhyngrwyd yn rhydd rhag problemau. 
"Cefais lawer o anawsterau yn ystod dyddiau cynnar AMS megis peidio â hyrwyddo’r Wefan ar ddulliau o chwilio a pheidio ag ystyried y gwahanol becynnau a oedd ar gael gan Ddarparwyr Gwasanaeth y Rhyngrwyd. Cynhaliodd Cyfle Cymru adolygiad eFasnach o Wefan AMS ac yna rhoddodd gyngor a chymorth ar yr hyn yr oedd angen i mi ei wneud er mwyn gwneud y busnes yn llwyddiant. Byddwn yn cymeradwyo bod unrhyw un sy’n ystyried dechrau busnes eFasnach yn cysylltu â Chyfle Cymru o’r cychwyn cyntaf." Mae Cyfle Cymru yn cydweithio â Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar (RNID) i gynorthwyo pobl anabl i elwa drwy ddefnyddio eFasnach. Drwy weithio gyda’r elusen a’i phartneriaid, sef Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB) ac Ymddiriedolaeth Shaw, gall Cyfle Cymru sicrhau bod ei wasanaethau yn cael eu cyflwyno mewn ffordd sy’n briodol i anghenion pobl anabl. Mae hefyd yn darparu cyngor i bobl busnes hunangyflogedig sydd ag anabledd ac i fusnesau bach a chanolig eu maint sy’n cyflogi pobl anabl ar sut y gellir defnyddio ac addasu eFasnach er eu lles hwy. 
www.activemusicservices.co.uk
Pamffled Mae pamffled o stori eFasnach llwyddiannus Active Music Serivces nawr ar gael. Gallwch ei lawr lwytho fel PDF (71k), neu am fersiwn argraffedig neu am gopi o unrhyw deunydd darllen Cyfle Cymru, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Astudiaeth achos Mae astudiaeth achos manwl a chynhwysfawr Active Music Services nawr ar gael. Gallwch ddarllen yr astudiaeth achos yma wrth ymaelodi â Gwefan Cyfle Cymru. Ar ôl derbyn eich cyfrinair trwy eBost, gallwch logio i fewn i hafan yr aelodau ac yna lleoli'r astudiaeth achos yma yn ogystal a llawer mwy yn yr adran Astudiaethau achos.
|