Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
Canllawiau Ar-lein
Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > Canllawiau Ar-lein > We Fyd Eang > Deall ystadegau fy ngwefan > Cyflwyniad



Page 1 of 4   Next Page .. Beth yw Ffeiliau Lòg?
 
Deall Ystadegau eich Gwefan
Cyflwyniad


Mae’r We yn wahanol yn y bôn i’r rhan fwyaf o offer marchnata eraill. Ym maes marchnata traddodiadol, mae’n weddol hawdd llunio proffil o’ch cwsmeriaid presennol a’ch cynulleidfa darged, yn nhermau demograffeg. Gyda’r We, fodd bynnag, nid ydych yn gwybod llawer am y ‘traffig’ o bobl sy’n ymweld â’ch Gwefan - mae’r rhan fwyaf ohonynt yn anhysbys ac yn mynd a dod heb adael llawer o ôl.

Yr angen i gael dealltwriaeth well o ymwelwyr a’r hyn a wnânt ar Wefan sydd y tu ôl i’r galw cynyddol am feddalwedd sy’n dadansoddi’r bobl sy’n ymweld â’r We. Mae’r data crai sy’n cynnwys gwybodaeth am ymwelwyr â’ch Gwefan yn dod ar ffurf ffeiliau lòg. Fel arfer, mae’r rhain ar gael gan eich Darparwr Gwasanaeth y We (ISP) ynghyd â’r feddalwedd sydd ei hangen i’w dehongli.

Mae dehongli ffeiliau lòg yn darparu data ymddygiadol am ymwelwyr, gan gynnwys y mathau o gwmnïau neu unigolion sy’n ymweld â’ch safle, ble y maent, a’r hyn a wnaethant tra’r oeddent ar y safle. Gyda’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n defnyddio’r We ac yn nifer y safleoedd, mae nifer y gofynion am dudalennau yn cynyddu’n gyflymach. Gall meddalwedd sy’n dadansoddi’r bobl sy’n ymweld â’r We helpu i lunio casgliadau o’r swm hwn o ddata ymddygiadol sy’n ymddangos yn anodd i’w drin.

Y nod yn y pen draw yw cyfuno’r wybodaeth ymddygiadol hon gyda gwybodaeth ddemograffig draddodiadol. Mae hyn yn caniatáu’r broses o fesur sut mae pobl yn ymateb i’ch Gwefan mewn gwirionedd. Yn ystod dyddiau cynnar Gwefan, defnyddir y wybodaeth hon yn bennaf gan fusnesau bach a chanolig eu maint i weld pa gynnwys sydd o ddiddordeb arbennig i ymwelwyr. Mae hefyd yn sail i dechnegau marchnata un i un sydd wedi’u personoli, sy’n caniatáu i fusnesau dargedu cynulleidfaoedd penodol gyda chynnyrch a gwasanaethau wedi’u haddasu ar eu cyfer sy’n diwallu eu hanghenion yn uniongyrchol.

Dim ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf y mae’r farchnad ar gyfer dadansoddi’r bobl sy’n ymweld â’r We wedi datblygu. Heddiw, mae’n rhan werthfawr iawn o’r diwydiant meddalwedd. Yn amlwg, caiff y farchnad hon ei llywio gan dwf y We Fyd-eang, a’r dyhead i wybod cymaint â phosibl am ymwelwyr drwy hunan-nodi, cofrestru, a logiau.
Next Page .. Beth yw Ffeiliau Lòg?



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)