Fersiwn Graffig Isel - WAI lefel AA a Bobby 508
Pwy a beth - amdanom ni, sut y gallwn eich helpu chi Canllawiau ar-lein - Canllawiau manwl ar sut all eFasnach eich helpu chi Busnesau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru - Newyddion, nodweddion a storïau llwyddiant busnes
Adnoddau - cymorth cynhwysfawr, cyfleusterau chwilio, a mwy Forum
Cyfle Cymru - tudalen cartref
Gwefan a ddatblygir mewn partneriaeth â BT
 English Version Dangos y tudalen yma mewn testun fwy  Gwneud yr tudalen yma yn gyfaddas â phapur Portread A4 Cymorth a'r y we Cysylltu â Chyfle Cymru  Map o'r Wefan  Cliciwch yr linc yma am archwiliad uwch. Am archwiliad syml, defnyddiwch yr bocs testun i'r dde.
Canllawiau Ar-lein
Cysylltiad partner As featured on NewsNow.co.uk


Rhydych chwi yma: Home > Canllawiau Ar-lein > We Fyd Eang > Deall ystadegau fy ngwefan > Beth yw Ffeiliau Lòg?



Page 2 of 4   Previous Page .. Cyflwyniad Next Page .. Defnyddio Pecyn Ystadegol eich Darparwr Gwasanaeth y Rhyngrwyd eich Hun
 
Deall Ystadegau eich Gwefan
Beth yw Ffeiliau Lòg?


Y tu ôl i bob Gwefan yr ymwelwch â hi y mae gwasanaethydd y We, a’i ddiben yw ymateb drwy ddod o hyd i’r ffeiliau y gofynnir amdanynt, a’u hanfon. Ar ôl pob cais, mae gwasanaethydd y We yn cofnodi canlyniadau’r broses o gyfnewid mewn “ffeil lòg”. Mae ffeil lòg nodweddiadol yn cynnwys gwybodaeth am ba gyfrifiadur a wnaeth y cais, ar gyfer pa ffeil, ac ar ba ddyddiad.

Weithiau, caiff gwybodaeth ychwanegol ei chofnodi, a allai gynnwys y math o borwr, cyfeiriad yr ymwelydd ar y Rhyngrwyd, codau gwallau fel tudalennau nas canfuwyd, y safle cyfeirio, a’r safle cyrchfan. Nid oes gan y rhan fwyaf o bobl sy’n defnyddio’r Rhyngrwyd yn eu cartrefi leoliad parhaol ar y Rhyngrwyd (a elwir yn TCP/IP), ac, yn nodweddiadol, pennir cyfeiriad gwahanol iddynt bob tro y byddant yn logio ar y Rhyngrwyd drwy eu Darparwr Gwasanaeth y Rhyngrwyd.

Yn syml, mae offer dadansoddi ffeiliau lòg yn cymryd y data hwn ac yn ceisio gwneud synnwyr ohono, fel y gellir dod i gasgliadau deallusol. Gellir cyfrifo a nodi pethau syml, fel cyfanswm y ffeiliau y gofynnwyd amdanynt, yn rhwydd. Gellir cynhyrchu mwy o wybodaeth: gan chwilio am geisiadau lluosog gan yr un cyfrifiadur yn ystod yr un cyfnod o amser, er enghraifft, gallwch ddweud beth yw cyfanswm nifer yr ymwelwyr a’r nifer o ymweliadau a wnaethant â’ch safle.

Mae eich Darparwr Gwasanaeth y Rhyngrwyd (ISP) yn cadw ffeiliau lòg sy’n cofnodi pob “trawiad” (cais am dudalen neu lun ar y We) ar eich Gwefan. Er nad yw’n rhoi cyfeiriad eBost rhywun i berchennog y safle (enw r parth yw’r peth agosaf a gewch), mae’r ffeil lòg yn dweud llawer wrthych am sut mae pobl yn cyrraedd eich Gwefan, a beth maent yn edrych arno pan fyddant yn ei chyrraedd.

Fodd bynnag, bydd angen cymorth pecyn dadansoddi ystadegol arnoch i wneud synnwyr o’r data a gedwir yn y ffeiliau lòg. Mae eich Darparwr Gwasanaeth y Rhyngrwyd yn debygol iawn o fod wedi gosod pecyn dadansoddi ystadegol poblogaidd a sicrhau bod y cyfleuster ar gael i gwsmeriaid.
Previous Page .. Cyflwyniad Next Page .. Defnyddio Pecyn Ystadegol eich Darparwr Gwasanaeth y Rhyngrwyd eich Hun



Rhan-Ariennir y Prosiect gan yr Undeb Ewropeaidd (Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewropeaidd) Llywodraeth Cynulliad Cymru © 2001-2007 Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf
Cyfarwyddiadur Clieint / Telerau ac Amodau/Polisi preifatrwydd Botymau Mynediad Darnau RSS
W3C - Lefel hygyrchedd A. Fersiwn graffig isel lefel hygyrchedd AA a Bobby 508. W3C - Cysandeb tafenni steil rhaedorol Cyswllt Cryno Gwefan Gyfoethog (RSS)