|
Mesurau eFasnach - Beth ddylwn i ei fesur? Cyflwyniad
Rhoddodd erthygl flaenorol gan Cyfle Cymru o dan y teitl “Archwilio effaith bellgyrhaeddol eFasnach o safbwynt ei buddiannau” drosolwg eang o’r mathau o fuddiannau a all godi o eFasnach. Mae’r erthygl hon yn adeiladu ar y cyhoeddiad hwn drwy roi syniad i Fusnesau Bach a Chanolig eu Maint (SME) yng Nghymru beth y dylent ei ystyried wrth benderfynu ar fesurau eFasnach addas i’w helpu i fonitro effaith eu buddsoddiadau eFasnach. Bydd hefyd yn rhoi enghreifftiau cyffredinol o’r math o fesurau y gallai busnesau eu defnyddio os dymunant.
Mae yna nifer o ddadleuon dros fesur buddiannau eFasnach. Fodd bynnag, y rheswm mwyaf cyffredin y sonnir amdano efallai yw’r dywediad rheoli traddodiadol “ni allwch reoli’r hyn nad ydych yn ei fesur”. Drwy gadw llygad barcud ar effaith eFasnach ar fesurau penodol, gall busnesau bach arbrofi gyda’u defnydd o eFasnach er mwyn gwneud y gorau o’i effaith o fewn eu busnes penodol. Mewn geiriau eraill, drwy fesur buddiannau mae’n bosibl y gellir helpu i’w cyflenwi yn ymarferol.
Yn wir, awgrymodd ymchwil diweddar gan Astudiaeth Meincnodi DTI International 2004 fod busnesau’r DU yn defnyddio mesurau yn gynyddol i helpu mesur buddiannau TGCh. Mae hyn yn awgrymu bod yna resymau busnes cadarn dros ddatblygu mesurau ar gyfer buddsoddiadau sy’n gysylltiedig ag eFasnach.
Nid yw’r erthygl hon yn diffinio ymagwedd ar sut i fynd ati i fesur buddiannau, ac nid yw’n ceisio trafod adenillion buddsoddiadau eFasnach na gwerth ariannol buddiannau eFasnach. Mae’r materion hyn yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd trwy ymchwil ymarferol gyda Busnesau Bach a Chanolig eu Maint.
|