 |
 |
Rhydych chwi yma: Home > Canllawiau Ar-lein > eFasnach ac eich busnes > Dulliau Mesur eFasnach > Mesurau sy’n ymwneud â gweithrediadau
|
| Page 7 of 10
|  |
 |
| |
|
Mesurau eFasnach - Beth ddylwn i ei fesur? Mesurau sy’n ymwneud â gweithrediadau
Gellir defnyddio amrywiaeth o fesurau i ddadansoddi perfformiad busnes sy’n defnyddio eFasnach i helpu i leihau costau gweithredol. Mae’r rhain yn amrywiol ac yn gyffredinol eu natur, ac yn cynnwys y canlynol:
- Cost gwerthiannau ar gyfartaledd;
- Amser cylchred arian-i-arian (nifer y dyddiau ar gyfartaledd mae arian yn ei gymryd i lifo yn ôl i goffrau’r cwmni wedi iddo gael ei wario ar ddeunyddiau craidd);
- Lleihad o ran nifer y dyddiau a gymerir i werthu’r stoc (nifer y dyddiau ar gyfartaledd nes gwerthir stoc cyfan);
- Nifer yr archebion a wneir trwy system Rhyngrwyd awtomataidd;
- Amser cynhyrchu anfoneb (dyddiau);
- Nifer yr archebion anghywir a gofnodir;
- Nifer y gwallau a’r dyblygiadau;
- Costau cynnal ar gyfer partneriaid sianel a defnyddwyr yn y pen draw;
- Costau gweinyddol, costau trafodion, costau papur, costau dosbarthu, cyfraddau galwadau, cost llythyru a chostau prosesu nwyddau wedi’u dychwelyd.
Mesurau sy’n ymwneud â Phartneriaid a Chyflenwyr
Fel arall, pan fo’r amcan strategol yn ymwneud yn benodol â lleihau costau’r gadwyn gyflenwi, gall y mesurau canlynol fod yn fwy perthnasol:
- Cost caffael;
- Ochr weinyddol y costau ar gyfer prynu deunyddiau a nwyddau;
- Ochr cynhyrchu’r costau ar gyfer caffael deunyddiau a nwyddau;
- Gwallau o ran archebion prynu (e.e. nifer y cymeradwywyr sydd eu hangen ar gyfartaledd ar gyfer pob archeb brynu, o’r cyflwyniad cychwynnol i’r gymeradwyaeth derfynol. Mae nifer y cymeradwywyr yn amser cylch sylweddol ac felly’n fesur lleihau costau);
- Nifer y cyflenwyr;
- Amser cylchred y gadwyn gyflenwi ar gyfartaledd.
|
|
|
|  |
 |
|

|
 |