|
Telerau ac Amodau / Polisi Preifatrwydd
Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf Tŷ Menter, Parc Navigation, Abercynon, Rhondda Cynon Tâf, CF45 4SN Rhif cwmni: 4135228 Ffôn: (0845) 8500 888 eBost: ymholiadau@cyflecymru.co.uk
Wefan Cyfle Cymru Termau, amodau a pholisïau preifatrwydd
Mae "Cyfle Cymru" yn cyfeirio at enw masnachu Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf.
Mae "Gwefan Cyfle Cymru" yn cyfeirio at wefan gyhoeddus Cyfle Cymru a’r meysydd hynny yr ystyrir eu bod ar gael yn unig i ddefnyddwyr sydd wedi cyhoeddi eu manylion er mwyn cofrestru ar gyfer cael mynediad i wasanaethau dethol, ac a gaiff eu cynnal o dan yr un enw parth â’r un lle y delir y ddogfen hon yn wreiddiol.
Caiff Cyfle Cymru ei ariannu’n rhannol gan yr Undeb Ewropeaidd drwy’r Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd, a thrwy bartneriaid a gaiff eu rhestru yn adran y partneriaid ar ei Wefan.
CYFLE CYMRU SY’N DARPARU’R MYNEDIAD A’R DEFNYDD O WEFAN CYFLE CYMRU. MAE’N AMODOL AR Y TERMAU A’R AMODAU CANLYNOL.
Amodau gwasanaeth
1. Mae’r termau a’r amodau hyn yn berthnasol i’r holl gyfnod y byddwch yn defnyddio Gwefan Cyfle Cymru ac mae’n cwmpasu Gwefan Cyfle Cymru yn unig. Nid yw’n cwmpasu unrhyw wasanaeth arall a ddarperir gan Gyfle Cymru boed ar Wefannau eraill neu yn rhywle arall.
2. Darperir y Wefan gan Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf gan fasnachu fel Cyfle Cymru a gellir ei defnyddio at ddibenion gwybodaeth yn unig. DRWY DDEFNYDDIO’R SAFLE YN CYNNWYS UNRHYW ACHOS O LWYTHO DEUNYDD OHONO, BYDDWCH YN DERBYN Y TERMAU A’R AMODAU A AMLINELLIR YN YR HYSBYSIAD HWN. OS NA FYDDWCH YN EU DERBYN, PEIDIWCH Â DEFNYDDIO’R SAFLE NA LLWYTHO DEUNYDDIAU OHONO.
3. Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf sy’n berchen ar yr holl hawliau yn cynnwys hawlfraint a hawliau cronfa ddata, wedi’u trwyddedu iddo, neu a ddefnyddir ganddo fel y caniateir o dan y gyfraith berthnasol.
4. Mae Cyfle Cymru yn cadw’r hawl i newid unrhyw dermau, amodau a pholisïau sy’n cyfeirio at y defnydd o wefan Cyfle Cymru ar unrhyw adeg. Mae hefyd yn cadw’r hawl i atal neu i addasu gwefan Cyfle Cymru ar unrhyw adeg heb roi rhybudd ymlaen llaw, p’un a gafodd y gwasanaeth ei atal drwy ddull o wahardd a bennwyd ymlaen llaw neu drwy ddull arall, mwy uniongyrchol fel diffyg annisgwyl yn y feddalwedd. Cyhoeddir fersiwn diwygiedig o’r ddogfen hon ar dudalen hafan gwefan Cyfle Cymru er mwyn rhoi hysbysiad o’r newidiadau. MAE EICH DEFNYDD PARHAUS O’R SAFLE HWN AR ÔL I NEWIDIADAU O’R FATH GAEL EU CYFLWYNO YN GOLYGU EICH BOD YN DERBYN Y NEWIDIADAU HYNNY.
Cynnwys gwefan Cyfle Cymru
5. Rheolir yr holl ddeunydd a nodir yn bendant nad yw Cyfle Cymru yn berchen arno gan dermau ac amodau y perchennog a/neu’r awdur perthnasol. Nid yw Cyfle Cymru yn gyfrifol am y cynnwys a’r gwasanaeth a ddarparwyd gan unrhyw endid arall ar wahân i Gyfle Cymru. Mae’r adrannau hyn yn cynnwys
- Gwybodaeth Fusnes
- Cynnwys sy’n nodi cyfeiriad clir at ei awduraeth gan awdur neu gwmni sy’n allanol i Gyfle Cymru.
6. Mae Cyfle Cymru yn darparu cysylltiadau i safleoedd allanol nad ydynt o dan reolaeth Cyfle Cymru. Nid yw gwybodaeth a gwasanaethau a ddarperir o fewn safleoedd allanol yn rhan o gyfrifoldeb Cyfle Cymru. Unwaith y bydd y defnyddiwr wedi gadael safle Cyfle Cymru, termau ac amodau’r safle y bydd yn ei ddefnyddio nesaf fydd yn berthnasol.
Gwybodaeth a gasglodd Cyfle Cymru gan ddefnyddwyr drwy gyfrwng Gwefan Cyfle Cymru
7. Mae Cyfle Cymru yn caniatáu aelodaeth gan unigolion i ddefnyddio cyfrifon i gyflawni gweithrediadau a nodwyd drwy Wefan Cyfle Cymru. Defnyddir y cyfrifon hyn i ddarparu gwasanaethau penodol, y darperir manylion amdanynt i’r cyhoedd cyffredinol drwy Wefan Cyfle Cymru
8. Mae Cyfle Cymru yn casglu gwybodaeth benodol ar ei ddefnyddwyr mewn rhannau o’r safle lle gofynnir i ddefnyddwyr gyflwyno gwybodaeth amdanynt eu hunain. Mae’r meysydd hyn yn cynnwys:
- Cofrestru gwybodaeth bersonol i gael mynediad i wasanaethau penodol, fel yr amlinellir ym mharagraff 7
- Ffurflenni lle y gall defnyddwyr gysylltu â Chyfle Cymru
- Ffurflenni lle y gall defnyddwyr gyfrannu at gynnwys Cyfle Cymru. Yn yr achosion hyn, mae Cyfle Cymru yn cadw’r hawl i beidio â chyhoeddi cyfraniadau defnyddwyr os ystyrir eu bod yn amhriodol i’r cynnwys neu’n ddifenwol o bosibl i gwsmeriaid Cyfle Cymru neu i ddefnyddwyr y Wefan.
9. Mae gan Gyfle Cymru hawl o dan gyfreithiau Cymru a Lloegr, a thrwy gyfeirio at Ddeddf Diogelu Data 1998, i gasglu manylion cofrestru defnyddwyr yn deg ac yn ddiduedd; i arddangos gwybodaeth ar y ffordd y defnyddir y manylion hyn o fewn Cyfle Cymru; ac i arddangos gwybodaeth ynglŷn ag os/pryd y trosglwyddwyd y manylion hyn i unigolion neu sefydliadau sy’n allanol i Gyfle Cymru. Am ragor o wybodaeth ar y ddeddf Diogelu Data, ymwelwch â www.dataprotection.gov.uk
10. Caiff cofnodion aelodaeth a ddelir gan Gyfle Cymru yngly^n â chael mynediad i ardaloedd caeëdig ar y Wefan eu prosesu’n rheolaidd o dan y mathau canlynol o allbynnau:
- Nifer y rhai sy’n defnyddio Gwefan Cyfle Cymru sydd wedi cofrestru i gael mynediad i wasanaethau ychwanegol, yn ôl hidlwyr megis sector daearyddol neu sector busnes. Yn yr achos hwn gallai hyn gynnwys allbwn ychwanegol sy’n cymharu’r rhif hwn â’r rhai a ddaeth yn gwsmeriaid gwasanaeth Cyfle Cymru drwy ddefnyddio Gwefan Cyfle Cymru; yn y cyd-destun hwn, dim ond er mwyn darparu’r ddau ffigur hwn yn realistig y defnyddir gwybodaeth bersonol.
- Dyfyniadau gan ddefnyddwyr Cyfle Cymru a allai fod neu na allai fod yn aelodau o gyfleusterau trafod Gwefan Cyfle Cymru. Lle defnyddir dyfyniadau, bydd Cyfle Cymru yn gofyn am ganiatâd yr awdur i’w defnyddio.
- Dull prosesu awtomatig drwy borth Cyfle Cymru i ddarparu cynnwys a digwyddiadau sy’n seiliedig ar broffil daearyddol a phroffil busnes y defnyddiwr. Meddalwedd y Wefan sy’n ymdrin â hyn. Mae hwn yn cael ei rheoli gan meddalwedd safle We, a gall cynnwys cysylltiad trwy eBost neu bost os yw hynny yn cymwysiadol.
Cyhoeddir yr allbynnau hyn mewn llawer o ddogfennau gwahanol gan Gyfle Cymru sy’n cynnwys cyfathrebu mewnol ac allanol gan gyflogeion Cyfle Cymru yn ogystal ag ystadegau a brosesir yn awtomatig fel logiau gwasanaethydd. Yn achos logio gwasanaethydd, caiff yr holl ddefnyddwyr eu holrhain at ddibenion ystadegol yn unig.
11. Yr unig reswm y darperir cookies ar gyfer porwr y defnyddiwr yw er mwyn eu nodi at y diben o gynhyrchu ystadegau fel y mathau a nodwyd ym mharagraff 11. Gallwch newid proses gyflunio eich porwr er mwyn gwrthod cookies drwy ddewis yr opsiwn “disable cookies” yn newislen gosodiadau eich porwr y We.
12. O dan adran 10 Deddf Diogelu Data 1998, rhoddir y cyfleuster i ddefnyddwyr a gaiff eu cofnodi gan Gyfle Cymru i gysylltu â hwy er mwyn cael mynediad i wybodaeth a ddelir yng nghofnodion Cyfle Cymru. Gall y defnyddwyr ofyn hefyd i’r wybodaeth gael ei diweddaru neu ei diwygio, neu gallant ofyn iddi gael ei dileu o gofnodion Cyfle Cymru. I wneud hynny, cysylltwch â ni yn y cyfeiriad post uchod neu ar y cyfeiriad eBost.
Caniatâd i ddefnyddwyr a’r termau o ran cyflwyno deunydd
13. Nid yw Cyfle Cymru yn gyfrifol am achos o golli gwasanaeth o ganlyniad i unrhyw weithred, anghyfreithlon neu fel arall, yr ystyrir ei fod y tu hwnt i reolaeth Cyfle Cymru ar adeg ei weithredu.
14. Ni ellir copïo, ailgyhoeddi, llwytho, postio, atodi at ddogfennau eraill, darlledu na throsglwyddo deunydd y mae Cyfle Cymru yn berchen arno mewn unrhyw ffordd ag eithrio at y defnyddiau canlynol:
- Defnydd personol ac unigol;
- Defnydd anfasnachol yn cynnwys cyfeiriadau ond heb gopïo na llwytho cynnwys Cyfle Cymru;
- Defnydd y cytunir arno gyda Chyfle Cymru, gan sefydliadau masnachol sy’n gwsmeriaid i Gyfle Cymru.
15. Gall Cyfle Cymru sefydlu arferion a therfynau cyffredinol mewn perthynas â’r defnydd o Wefan Cyfle Cymru yn gyfan gwbl neu’n rhannol, yn cynnwys (heb gyfyngiad) uchafswm y dyddiau y caiff hysbysiadau am fforymau trafod, hysbysiadau gwelog, gwybodaeth am ddigwyddiadau, llenyddiaeth neu gynnwys arall a gaiff ei uwchlwytho eu cadw ar y safle. Cytuna defnyddwyr nad oes gan Gyfle Cymru unrhyw gyfrifoldeb neu atebolrwydd am ddileu neu am fethu â storio unrhyw ddeunydd o’r fath. At hynny, mae defnyddwyr yn cydnabod bod Cyfle Cymru yn cadw’r hawl i newid yr arferion a’r terfynau cyffredinol hyn ar unrhyw adeg, yn ôl ei ddisgresiwn ei hun, drwy roi rhybudd i chi neu drwy beidio â rhoi rhybudd i chi.
16. Caniateir yr hawl i ddefnyddio’r feddalwedd a ymgorfforir yn y safle sy’n galluogi defnyddwyr i gyflwyno deunydd i’r safle i Ddefnyddwyr ar yr amod bod gan Gyfle Cymru drwydded nad yw’n unigryw, yn barhaus ac yn rhydd o freindaliadau i ddefnyddio deunydd o’r fath at bob diben ac ym mhob cyfrwng yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Wefan Cyfle Cymru. Mae’r hawl hon yn amodol hefyd ar y ffaith bod defnyddwyr yn gwarantu bod y deunydd hwn yn wreiddiol ac nad yw’n torri hawliau trydydd partïon ac nad yw’n cynnwys deunydd a allai achosi gofid, tramgwydd neu niwed i eraill, yn cyfyngu ar neu’n atal y defnydd o’r safle hwn gan unrhyw ddefnyddiwr arall, neu’n poenydio, yn achosi gofid neu anghyfleustra i unrhyw ddefnyddiwr arall, neu’n trosglwyddo cynnwys yr ystyrir ei fod yn amhriodol i wasanaeth Cyfle Cymru. Mae defnyddwyr, drwy hyn, yn cytuno i dalu iawn i Gyfle Cymru am unrhyw golled neu niwed y gallai Cyfle Cymru ei ddioddef o ganlyniad i honiad a wneir gan drydydd parti bod deunydd a gyflwynir gan ddefnyddwyr yn torri hawliau trydydd partïon neu’n achosi gofid, niwed neu dramgwydd. Mae defnyddwyr sydd wedi cyflwyno’r deunydd hwn, gan hynny, yn cytuno i ddigolledu Cyfle Cymru a chadw Cyfle Cymru wedi’i digolledu am unrhyw golled neu niwed y gall Cyfle Cymru ei ddioddef o ganlyniad i hawliad gan drydydd parti bod y deunydd a gyflwynwyd ganddynt yn tresmasu ar hawliau trydydd parti neu’n peri gofid, niwed neu dramgwydd i’r trydydd parti hwnnw.
17. Mae Gwefan Cyfle Cymru hefyd yn cynnwys cyfleusterau i ddefnyddwyr allu prynu nwyddau a gwasanaethau. Nid yw Cyfle Cymru yn gyfrifol am y cynnyrch na’r gwasanaethau hyn mewn unrhyw ffordd, ac ni ddylai’r defnyddiwr ystyried bod Cyfle Cymru yn gyfrifol am unrhyw agwedd ar y cynnyrch a/neu’r gwasanaeth, yn cynnwys ei argaeledd. Dylai defnyddwyr felly gysylltu â darparwr y cynnyrch neu’r gwasanaeth perthnasol ynglŷn ag unrhyw ymholiadau a allai fod ganddynt. Mae’r cyfleusterau ar Wefan Cyfle Cymru sy’n cynnig y posibilrwydd i hysbysebu cynnyrch a gwasanaethau yn cynnwys:
- Y broses o gyflwyno nwyddau a gwasanaethau a ddarperir gan gwmni sy’n allanol i Gyfle Cymru.
- Cyfraniadau i Wefan Cyfle Cymru gan ddefnyddwyr ar ffurf nwyddau a gwasanaethau a gaiff eu hysbysebu er mwyn eu gwerthu.
Atebolrwydd Cyfle Cymru wrth ddefnyddio ei Wefan
18. CAIFF Y SAFLE HWN A’R WYBODAETH, ENWAU, DELWEDDAU A LLUNIAU (YN CYNNWYS EICONAU A LOGOS) Y MAE CYFLE CYMRU YN BERCHEN ARNYNT NEU SY’N GYSYLLTIEDIG Â CHYFLE CYMRU A’I GYNNYRCH A’I WASANAETHAU, EU DARPARU AR YR AMOD EU BOD AR GAEL, HEB ROI UNRHYW GYNRYCHIOLAETH NEU GADARNHAD AC HEB WARANT O UNRHYW FATH P’UN A GAIFF EI FYNEGI NEU EI AWGRYMU, YN CYNNWYS, OND HEB FOD YN GYFYNGEDIG I WARANTAU AWGRYMEDIG O RAN ANSAWDD BODDHAOL, ADDASRWYDD AR GYFER DIBEN ARBENNIG, PEIDIO Â THORRI RHEOLAU, CYWIRDEB, CYFADDASTER (YN CYNNWYS TECHNEGOL) A DIOGELWCH. NI FYDD CYFLE CYMRU YN ATEBOL MEWN UNRHYW ACHOS AM UNRHYW IAWNDAL (YN CYNNWYS IAWNDAL ANUNIONGYRCHOL NEU GANLYNIADOL) SY’N DEILLIO O ACHOS O GOLLI DEFNYDD, DATA, ELW, P’UN A YW HYNNY O GANLYNIAD I WEITHREDU’R CONTRACT, ESGEULUSTOD NEU WEITHREDU CAMWEDDUS ARALL, SY’N DEILLIO O’R DEFNYDD O’R SAFLE HWN NEU SY’N GYSYLLTIEDIG Â’R DEFNYDD OHONO. NID YW CYFLE CYMRU YN GWARANTU Y BYDD Y SWYDDOGAETHAU A GYNHWYSIR O FEWN Y DEUNYDD A GYNHWYSIR O FEWN GWEFAN CYFLE CYMRU YN RHYDD O WALLAU, NA FYDD YMYRRAETH I’R BROSES O DDARPARU CYNNWYS A/NEU WASANAETH, YN GYWIR, NEU FOD Y GWASANAETHYDD SY’N SICRHAU EI FOD AR GAEL YN RHYDD O UNRHYW WASANAETH NEU ENDID SYDD Â’R POTENSIAL I ACHOSI NIWED NA FWRIADWYD GAN GYFLE CYMRU I GYFRIFIADUR Y DEFNYDDIWR YN Y PEN DRAW NEU I’R DDYFAIS FYNEDIAD YN SGÎL FIRYSAU, GWALLAU RHAGLENNI NEU DDULLIAU ERAILL.
19. Er y darperir y wybodaeth o fewn Gwefan Cyfle Cymru gyda phob ewyllys da, cynghorir y defnyddiwr i gael cyngor proffesiynol cyn dibynnu ar y wybodaeth honno.
Y Gyfraith
20. Os ystyrir bod unrhyw un o’r termau hyn yn anghyfreithlon, annilys neu nad ydynt yn orfodadwy gan y cyfreithiau lleol neu genedlaethol lle y bwriedir iddynt fod yn effeithiol, caiff y term unigol yr ystyrir ei fod felly, ei dorri a’i ddileu, a bydd y rhai â’r hawl i barhau yn gyfreithiol yn parhau i weithredu.
21. Mae’r termau a’r amodau hyn yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw weithred gan ddefnyddiwr mewn perthynas â’r termau hynny yn amodol ar awdurdod llysoedd Cymru a Lloegr.
22. Os nad ydych yn derbyn y termau a’r amodau hyn yn llawn, gofynnir i chi ymatal rhag defnyddio’r Wefan hon ar unwaith.
Diweddarwyd y ddogfen hon ddiwethaf ar Mawrth 3, 2003.
Mae Cyfle Cymru yn nod masnach cofrestredig Gwell Busnes Cymru (Daliadau) Cyf.
|