 |
 |
Rhydych chwi yma: Home > Canllawiau Ar-lein > Gwerthu ar-lein
Gwerthu ar-lein Defnyddir y term ‘eFasnach’ yn aml i ddisgrifio’r gweithgaredd o werthu a chymryd taliadau ar-lein. Fodd bynnag, mae barn Cyfle Cymru yn llawer ehangach na hynny; ein barn yw bod eFasnach yn golygu unrhyw fath o drafodion y mae technoleg wedi chwarae rhan ynddynt. Mae sawl ffurf wahanol o eFasnach, a bydd gan bob busnes anghenion gwahanol pan ddaw at nodi pa lwybr fyddai orau iddynt o ran eu datblygiad. Un o’r ffurfiau mwyaf cyffredin yw gwerthu’n uniongyrchol dros Wefan. Mae’n bosibl mai dyma fydd yr achos i rai cwmnïau (yn enwedig y rhai sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid), ond nid bob un. Opsiwn arall fyddai peidio â gwerthu’n uniongyrchol, ac ymuno â rhyw fath o gynllun lle mae perthynas gyfunol yn darparu’r gwasanaeth, fel eFarchnad neu raglen gyswllt. 
Un o’r manteision mwyaf pwerus y mae eFasnach yn ei gynnig yw amlygiad. Mae busnes bach yr un mor amlwg â busnes rhyngwladol, a gall ddenu busnes o unrhyw ran o’r byd. Felly, gall wybod sut i ddenu cwsmeriaid ledled y byd fod yn bwysig - yn enwedig pan ddaw i wybod sut i gymryd taliadau a’u prosesu. Gall eich ymgynghorydd Cyfle Cymru esbonio bob dull o werthu ar-lein i chi er mwyn argymell y llwybr cywir i chi, eich busnes, eich staff, a’ch dyfodol.

|
 |