Geirfa eFasnach Cyfle Cymru [A - F]
Bydd yr eirfa ganlynol o ddefnydd i ddefnyddwyr Gwefan Cyfle Cymru. Mae'n cynnwys y termau a ddefnyddir yn amlaf, ac fe'i hanelir at fusnesau bach a chanolig eu maint sy'n defnyddio eFasnach ar hyn o bryd neu sy'n bwriadu ei ddefnyddio yn y dyfodol.
A
Addaswr Terfynell
Yn galluogi data i gael ei drosglwyddo dros linell ISDN, yn debyg i'r ffordd y mae modem yn galluogi i ddata gael ei anfon dros linell ffôn.
ADSL
Llinell Danysgrifio Ddigidol Anghymesur. ADSL yw’r dull cysylltu a ddefnyddir gan BT i uwchraddio llinellau ffôn safonol i fand eang.
Allrwyd
Rhwydweithiau ardal eang preifat sy’n rhedeg ar brotocolau cyhoeddus gyda’r nod o feithrin cydweithrediad a rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau. Un nodwedd o’r Allrwyd yw y gall cwmnïau ganiatáu i westeion penodol gael mynediad i ddata mewnol ar sail reoledig.
AltaVista
AOL
Apple
Gweithgynhyrchwr cyfrifiaduron Macintosh. Enw’r system weithredu a ddefnyddir ar gyfrifiaduron Macintosh yw MacOS.
Applet
Rhaglen fechan y gellir ei mewnosod i Wefan i greu swyddogaethau ychwanegol, fel sgrolio drwy destun. Yn aml, ysgrifennir Applets mewn iaith raglennu o’r enw Java. Mae’r rhan fwyaf o borwyr Gwefannau yn cynnwys dehonglwr Java, o’r enw Peiriant Gwireddus Java.
ASCII
(American Standard Code for Information Interchange) Côd Safonol Americanaidd ar gyfer Rhyngnewid Gwybodaeth - y sylfaen ar gyfer y setiau o nodau a ddefnyddir ym mhob cyfrifiadur modern.
ASP
1.Darparwyr Gwasanaeth Cymwysiadau – Cwmni sy’n rhentu mynediad i feddalwedd a gwasanaethau y byddai busnesau yn eu prynu fel arall ac yn eu ffurfweddu eu hunain. 2.Tudalennau Gwasanaethydd Gweithredol – dull o greu tudalennau Gwe deinamig gan ddefnyddio sgriptiau a HML o fewn gwasanaethydd Gwe Microsoft. Yn debyg i CGI.
Atyniadol
Term cyffredinol a ddefnyddir i ddisgrifio nodweddion Gwefan i ddenu defnyddwyr a’u cadw yno. Mae hefyd yn mesur faint o ddefnyddwyr sy’n dychwelyd i’r safle i gael mwy o wybodaeth neu gynnyrch.
Awdio Gynadledda
Gwasanaeth biwro a ddarperir gan ddarparwyr gwasanaeth ffôn megis BT, sy'n eich galluogi i gael cydalwad gyda llawer o bobl mewn lleoliadau gwahanol.
B
Bancio Ar-lein (on-line banking)
Gwefan sy’n caniatáu i gwsmeriaid gael mynediad i’w banc dros y Rhyngrwyd i edrych ar filiau, talu biliau, creu archebion sefydlog neu edrych ar falans eu cyfrif.
Band Llydan
Cyflymder cyfathrebu ar led band sy’n fwy na 2 Mbps.
Baner
Ardal ar dudalen ar y We a ddefnyddir ar gyfer gosod hysbysebion.
Blog Gweler Gwelog.
BPS (bitiau yr eiliad)
Y gyfradd y gellir cludo un bit, a fynegir fel arfer mewn miloedd, Kbps, neu filiynau, Mbps.
C
CGI (Rhyngwyneb Porth Cyffredin)
Rhyngwyneb Porth Cyffredin. Darn canolog o feddalwedd sydd ar wasanaethydd y We ac sy’n dehongli cynnwys o gronfa ddata i dudalen ar y We. Golyga hyn fod cynnwys y We yn ddeinamig, a’i fod yn cael ei brosesu’n barhaus drwy feddalwedd CGI a chronfa ddata, yn hytrach nag yn statig drwy ffeiliau HTML.
Cleient / gwasanaethydd
Math o rwydwaith sydd â phrif gyfrifiadur pwerus (a elwir yn wasanaethydd) sydd wedi'i gysylltu â nifer o gyfrifiaduron eraill (a elwir yn gleientiaid).
CMS
System Rheoli Cynnwys. Meddalwedd sy’n caniatáu dull manwl o reoli cynnwys y We, yn cynnwys rheoli awdur a fersiwn. Fel arfer, mae angen gosod cronfa ddata a CGI er mwyn defnyddio meddalwedd CMS.
CNP (Cerdyn yn Absennol)
Mae hyn yn cyfeirio at werthiannau drwy ddefnyddio cardiau credyd/debyd a wneir pan fydd y cerdyn yn absennol ar adeg gwerthu’r cynnyrch e.e archeb drwy’r post, ffurflenni dros y We.
CRM (Rheoli Cydberthnasau Cwsmeriaid)
Datrysiadau meddalwedd wedi’u pecynnu ar gyfer swyddogaethau swyddfa flaen fel cysylltiadau cwsmeriaid, gwerthiannau, marchnata, cyfrifon i’w derbyn ac ati. Fel y mae’r enw yn awgrymu, maent yn cynnwys y cwsmer yn y prosesau busnes sy’n cael eu rheoli.
Cyfeiriadur Agored
Cyfeiriadur chwilio poblogaidd y mae Netscape yn berchen arno ac a gaiff ei syndicetio gan Google a llawer o wefannau eraill.
Cyfeiriadur Chwilio
Mynegeion ar y We sy’n galluogi’r defnyddiwr i chwilio am wybodaeth drwy deipio gair allweddol i’r blwch ymholiadau ar eu safle. Mae’r cyfeiriadur yn chwilio am eiriau tebyg yn eu cronfa ddata hwy yn unig.
D
Darparwyr Gwasanaeth Talu (PSP’s)
Cwmnïau yw’r rhain sy’n arbenigo mewn cymryd taliadau â cherdyn credyd/debyd dros y We. Bydd busnes bach a chanolig ei faint sy’n defnyddio PSP yn defnyddio’r cyfleusterau ar-lein a gynigir gan y PSP am ffi, ac yna trosglwyddir arian i gyfrif banc y busnes bach a chanolig ei faint.
Deialu
Dilysiad
Enw’r broses o wirio enw defnyddiwr wrth iddynt logio i mewn i rwydwaith.
LAN neu Wi-Fi Di-wifr (Wireless)
Y gallu i gysylltu i rwydwaith gan ddefnyddio mynediad di-wifr. Fel arfer, defnyddir cyfres o brotocolau 802 i wneud hyn, ac mae’n galluogi’r defnyddiwr i gysylltu i rwydwaith unigol, y Rhyngrwyd, neu unrhyw le y mae’r cyfleuster ar gael.
DNS
System Enwau Parth. Y system sy’n lleoli’r cyfeiriadau IP rhifiadol sy’n cyfateb i gyfrifiadur penodol, fel gwasanaethydd Gwe, sydd wedi’i gysylltu â’r Rhyngrwyd.
Dull o Chwilio (Search engine)
Cyfleuster, sydd ar gael dros y We Fyd Eang, i chwilio am Wefannau sy’n cynnwys geiriau neu ymadroddion penodol.
E
eBost
Talfyriad o bost electronig.
EDI (Rhyngnewid Data yn Electronig)
Mae hwn yn ddull o fasnachu, a ddefnyddir yn gyson gan bartneriaid masnachu mwy, lle y caiff dogfennau masnachu traddodiadol megis archebion, anfonebau, amserlenni dosbarthu, ac ati, eu cyfnewid drwy ddull electronig drwy ddefnyddio fformat cyffredin o un system gyfrifiadurol i un arall, yn hytrach nag ar ffurf papur.
eFasnach
Mae eFasnach yn cwmpasu unrhyw ddull o fusnes neu drafodyn gweinyddol, neu ddull o gyfnewid gwybodaeth rhwng y cwmni a chwmnïau allanol, a gyflawnir drwy ddefnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu. Mae'r defnydd o eFasnach o fewn busnesau bach a chanolig eu maint yn amrywio ac ni cheir un datrysiad eFasnach unigol.
eGatalog
Mewn termau syml, mae’n debyg i gatalog papur gwag y gellir ei lenwi gyda manylion eich cynnyrch eich hun, gan ganiatáu i gwsmeriaid brynu ar-lein gan ddefnyddio basged siopa.
Enw Parth
Enw unigryw sy’n adnabod Gwefan, ac sy’n berthnasol i gyfeiriad IP rhifiadol pob Gwefan, sy’n llawer anoddach i’w gofio.
ERP (Cynllunio Adnoddau Menter)
Systemau datrysiadau meddalwedd wedi’u pecynnu ar gyfer swyddogaethau swyddfa gefn fel cyfrifon taladwy, y gyflogres, adnoddau dynol, materion ariannol a gweithgynhyrchu. Maent yn aml yn cynnwys y cyflenwr yn y prosesau busnes sy’n cael eu rheoli.
F
FAQ
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml.
Ffefrynnau
Mae Ffefrynnau neu Lyfrnodau yn ffeiliau bach a gaiff eu cadw drwy borwr Gwe a all storio cyfeiriadau Gwe.
Ffeil Zip (Zip file)
Dull o gywasgu ffeil gyfrifiadurol i’w storio neu ei drosglwyddo.
Ffeiliau Llofnod
Ffeiliau llofnod y gellir eu hychwanegu’n awtomataidd i ddiwedd negeseuon ebost. Fel arfer, maent yn cynnwys enw’r anfonwr, a gwybodaeth arall amdano.
Firewall
Darn o galedwedd neu feddalwedd sy'n rhwystro mynediad o rwydwaith (fel arfer rhwydwaith mewnol cwmni mawr) ac o'r Rhyngrwyd cyffredinol.
Firws (Virus)
Rhaglen gyfrifiadurol neu sgript sy’n ailadrodd ei hun. Gall firws osod meddalwedd, creu neu ddileu ffeiliau. Caiff firysau eu taenu drwy negeseuon eBost ac maent yn ecsbloetio systemau bregus, cynnyrch Mircrosoft gan amlaf.
Flash
Cyfres raglennu aml gyfryngol gan Macromedia. Erbyn hyn, mae gan nifer o Wefannau gynnwys Flash, ac mae nifer o borwyr Gwe yn cynnwys nodweddion i chwarae ffeiliau Flash (‘ffilmiau Flash’). Fel arfer, defnyddir Flash ar gyfer lluniau fector (lluniau sy’n seiliedig ar geometreg llinellol) ond caiff ei ddefnyddio fwyfwy ar gyfer fideo a sain.
FTP (Protocol Trosglwyddo Ffeiliau).
Defnyddir FTP ar gyfer trosglwyddo ffeiliau o un cyfrifiadur i un arall, a hwn yw'r ffordd arferol o uwchlwytho tudalennau'r We i wasanaethydd.
FUD
Mae Ofn Ansicrwydd ac Amheuaeth (Fear Uncertainty and Doubt) yn ddull a ddefnyddir gan werthwyr sy’n rhoi gwybodaeth gamarweiniol.
|