Geirfa eFasnach Cyfle Cymru
[Q - Z]
Q
QuickTime
Fformat fideo ac animeiddio sy’n caniatáu llif fideo, wedi’i ddatblygu gan Apple.
R
Rhyngrwyd
Rhwydwaith byd-eang o gyfrifiaduron yw'r Rhyngrwyd sy'n defnyddio safonau cyffredin ac a gaiff ei ddefnyddio gan filiynau o ddefnyddwyr, ledled y byd.
Real (Sain, Fideo)
Fformat aml gyfrwng sy’n caniatáu llif fideo (Real Video) a/neu sain (RealAudio) dros y Rhyngrwyd.
Rhestr bostio
Rhestr o gyfeiriadau eBost.
Y Rhwyd (Net)
Talfyriad ar gyfer y Rhyngrwyd
RSS
Crynodeb Safle Cyfoethog. Fformat sy’n caniatáu cyfnewid cynnwys y We – Gwelogau fel arfer – rhwng safleoedd neu drwy ddull crynhoi RSS, gan alluogi defnyddwyr i ddarllen sawl darn o newyddion a gwybodaeth drwy un darn o feddalwedd.
S
Safari
Porwr Gwe wedi’i ddylunio’n benodol i redeg ar system weithredu Apple MacOS.
Seiffro (Encryption)
Dull o ‘anhrefnu’ gwybodaeth er mwyn sicrhau mai dim ond y sawl y bwriedir iddo dderbyn y wybodaeth sy’n gallu ei darllen.
SMB
Busnesau Bach a Chanolig eu Maint, y term Americanaidd am fusnes bach.
SME
Busnesau Bach a Chanolig eu Maint, term swyddogol y DU am fusnes bach.
Spam
Negeseuon eBost a dderbynnir, er nad yw’r derbynnydd wedi gofyn amdanynt. Fel arfer, maent yn ceisio gwerthu cynnyrch a gwasanaethau, ac maent yn anghyfreithlon erbyn hyn ledled Ewrop, lle mae angen caniatâd y derbynnydd cyn anfon negeseuon eBost sy’n seiliedig ar farchnata cyn eu hanfon atynt.
Stafell Sgwrsio (Chat room)
Ystafell wireddus lle gall nifer o ddefnyddwyr sgwrsio am bynciau amrywiol.
Syrffio
Term slang ar gyfer y broses o symud o amgylch y We.
System Ddeialu
Cysylltiad ag ISP dros y rhwydwaith ffôn cyhoeddus arferol, gan ddefnyddio modem.
T
Taliad yn ôl (chargeback)
Os bydd deiliad cerdyn yn dadlau ynghylch trafodion ar ei ddatganiad gyda chyhoeddwr eu cerdyn, sy’n ddilys. Gellir talu swm y trafodion yn ôl i’r manwerthwr a gymerodd y taliad.
TCP/IP (Transmission Control Protocol/Internet Protocol)
Mae Protocol Rheoli Trosglwyddiad/Protocol y Rhyngrwyd yn nodi sut y caiff data ei anfon ar draws y Rhyngrwyd. Caiff ei ddefnyddio hefyd gan lawer o rwydweithiau preifat.
TG
Technoleg Gwybodaeth.
TGCh (ICT)
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.
Tudalen Gartref
Y dudalen gyntaf a welwch, fel arfer, wrth fynd i Wefan.
Trojan Horse Rhaglen sy’n esgus bod yn rhywbeth gwell nag ydyw. Defnyddir rhaglenni ‘trojan’ i ddwyn gwybodaeth defnyddiwr o Gyfrifiadur Personol a gellir eu defnyddio i gymryd rheolaeth dros y cyfrifiadur o bell.
U
URL (Universal Resource Locator)
Lleolwr Adnoddau Cyffredinol. Term 'swyddogol' y fformat a ddefnyddir ar gyfer cyfeiriadau ar y We. Mae gan bob tudalen ar y We Fyd-eang URL gwahanol ac mae bob un ohonynt yn dechrau â'r acronym HTTP. Uuencoding
Dull o amgodio sy'n galluogi ffeiliau deuaidd (megis graffeg neu raglenni) i gael eu trosglwyddo i ASCII er mwyn iddynt allu cael eu hanfon fel negeseuon eBost. Caiff ei ynganu fel you-you encoding.
Unix
System weithredu a ddefnyddir yn eang sy'n dyddio yn ôl i ddiwedd y 1960au ac sy'n cael ei datblygu o hyd. Ers blynyddoedd lawer, roedd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr ar y Rhyngrwyd yn defnyddio peiriannau Unix i gael mynediad i ddata ac i gyflwyno data; mae'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n cysylltu â'r Rhyngrwyd drwy Microsoft Windows wedi lleihau'r defnydd. Fodd bynnag, defnyddir Unix yn eang o hyd o fewn gwasanaethyddion y we a chreodd ei chyfres o dermau ei hun megis Uuencoding uchod.
Uwchgysylltiad
Cysylltiad sy'n cysylltu darnau gwahanol o wybodaeth ar y We. Ymddengys Uwchgysylltiadau (neu 'cysylltiadau poeth') fel mannau poeth ar dudalen ar y We, ar ffurf geiriau neu ddelweddau a gaiff eu hamlygu. Drwy glicio ar yr uwchgysylltiad, gall y darllenydd neidio ar unwaith i ran arall o'ch safle, neu i Wefan hollol wahanol. Mae'r term yn deillio o 'Uwchdestun', sef system o gysylltu dogfennau â'i gilydd a ddyfeisiwyd yn y 1960au.
V
VAN (Rhwydwaith Gwerth Ychwanegol)
Mae cwmnïau sy'n defnyddio EDI (rhyngnewid data yn electronig) fel arfer yn cyfnewid trafodion trwy gyfrwng VAN trydydd parti (value added network), rhwydwaith gwerth ychwanegol.
VPN (Rhwydwaith Preifat Gwireddus)
Mae’n galluogi Cyfrifiaduron Personol i gael eu cysylltu i rwydwaith o bell gan ddefnyddio’r Rhyngrwyd. Fodd bynnag, mae’r wybodaeth a drosglwyddir wedi’i seiffro er diogelwch.
W
W3C
Consortiwm Y We Fyd Eang, corff rhyngwladol i ddatblygu ieithoedd a safonau ar y We. ( www.w3.org)
Y We Fyd Eang
Set o dudalennau electronig wedi’u cysylltu yw’r We Fyd Eang, sy’n cynnwys testun a lluniau yn bennaf, sydd ar gael dros y Rhyngrwyd.
X
XML (eXtensible Mark-up Language)
System a ddefnyddir yn helaeth i ddiffinio fformatau data.
Y
Yahoo
Cyfeirlyfr chwilio poblogaidd.
Ystod
Mesuriad o gyflymdra'r broses o drosglwyddo data, neu swm y data y gall llinell neu sianel
ei gludo pob eiliad. Caiff ystod ddigidol ei mesur ar ffurf bps (bitiau yr eiliad).
Z
|